Back
Cynlluniau i greu campws addysg y cyntaf o’i fath yng Nghaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cynlluniau i adeiladu campws addysg yn y Tyllgoed a fyddai'n creu safle ar gyfer tair ysgol a adeiledir o'r newydd.

 

Safle Doyle Avenue, cartref presennol Ysgol Uwchradd Cantonian, yw un o'r darnau tir addysg mwyaf yng Nghaerdydd.Gyda dros 11 hectar, mae'n cynnig cyfle i Gyngor Caerdydd adeiladu Ysgol Uwchradd Cantonian newydd, Ysgol Arbennig Woodlands newydd ac Ysgol Arbennig Riverbank newydd, ar un campws.

 

Yn y cynlluniau a amlinellwyd mewn adroddiad i'w ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd, byddai adeilad newydd Ysgol Uwchradd Cantonian yn gweld yr ysgol yn ehangu o'r 6 Dosbarth Derbyn presennol i 8 Dosbarth Derbyn.Byddai'r ysgol newydd yn gallu rhoi lle i hyd at 1200 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed, yn ogystal â chweched dosbarth.

 

Byddai'r ehangu hefyd yn cynnig 30 o lefydd, mewn adeilad pwrpasol, ar gyfer Canolfan Adnoddau Arbennig i fyfyrwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig.

 

Byddai'r Ysgol Woodlands newydd yn adleoli o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái yn y Caerau.Byddai'r niferoedd yn gallu cynyddu o 140 lle i 240 lle.

 

Byddai Ysgol Arbennig Riverbank hefyd yn adleoli o'r safle gerllaw Parc Trelái, a byddai'r adeilad newydd yn ei galluogi i dyfu o 70 i 140 o lefydd.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:Mae safle Doyle Avenue yn rhoi cyfle i ni ystyried creu campws addysg a fyddai'n rhoi tri chartref ar wahân i Cantonian, Woodlands ac i Riverbank.

 

"Byddai'n ein galluogi ni i adeiladu ysgolion yn fwy effeithlon, gan sicrhau'r budd gorau o'n buddsoddiad ar gyfer y plant a'r bobl ifanc, y mae rhai ohonyn nhw ymhlith ein mwyaf agored i niwed, gydag anghenion addysg cymhleth tu hwnt.

 

"Mae adeiladau presennol Cantonian, Woodlands a Riverbank wedi cyrraedd diwedd eu hoes weithredol, ac mae angen eu hadnewyddu.Byddai campws a rennir ar safle Doyle Avenue yn cynnig cyfleusterau'r G21 i fyfyrwyr y tair ysgol, a byddai'n gadael inni ateb y cynnydd a ragamcennir yn y galw am lefydd ysgol uwchradd yn yr ardal a'r galw cynyddol am ddarpariaeth anghenion addysg cymhleth.

 

Byddai'r cynigion sy'n cael eu cynnig yn yr Adroddiad Cabinet yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a chynllunio.

 

Gellir gweld copi llawn o'r adroddiad ar-lein ynCyfarfodydd.Bydd y Cabinet yn cwrdd i ystyried argymhellion yr adroddiad ddydd Iau, 13 Rhagfyr.