Back
Dirwy drom am osgoi Rhentu Doeth Cymru

 

Rhoddwyd dirwy drom i landlord yng Nghaerdydd gyda 16 eiddo yn y ddinas am osgoi cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

 

Cafwyd Charles Baker, Cyncoed Road, Cyncoed, Caerdydd, yn euog yn ei absenoldeb o 124 trosedd yn Llys yr Ynadon Caerdydd - a gorchmynnwyd iddo dalu£20,000 a £741 o gostau.

 

Mae'n ofynnol dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 bod landlordiaid sy'n gosod a rheoli eu heiddo eu hunain yn cofrestru â, a chael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru.Cafodd yr Ymadon Mr Baker yn euog yn ei absenoldeb  o fod heb drwydded i osod na thrwydded i reoli eiddo mewn perthynas â phob un o'i 62 eiddo yn ardal y Rhath yn y ddinas.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne: "Cyflwynwyd Rhentu Doeth Cymru i godi safonau yn y sector rhentu preifat a helpu i broffesiynoli rôl y landlord er budd y landlordiaid eu hunain a'u tenantiaid. Mae'n dipyn o syndod bod landlord â chanddo gymaint o eiddo yn y ddinas wedi ceisio osgoi cydymffurfio.

 

"Fodd bynnag, dydy hi ddim o bwys p'un ai landlord â 60 ynteu un eiddo ydych chi oherwydd bod yn rhaid i bob landlord sy'n hunan-reoli ddal trwydded gan Rentu Doeth Cymru i weithredu'n gyfreithlon.

 

"Rydyn ni'n erlyn landlordiaid am beidio â chydymffurfio trwy Gymru gyfan a byddwn ni'n parhau i wneud hynny er mwyn chwynnu'r lleiafrif sy'n ddigon ffôl i gredu nad yw'r gyfraith yn berthnasol iddyn nhw."