Back
Cyngor Caerdydd yn argymell cynigion ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna y ddinas. 

Bydd Aelodau Cabinet yr awdurdod lleol yn ystyried adroddiad pan fyddant yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 24 Ionawr. Mae'r adroddiad yn argymell bwrw ymlaen â'r project, ar ôl i'r cyhoedd ymgysylltu â'r cynigion tua diwedd y llynedd. 

Mae'r cynnig dangosol ar gyfer ysgol newydd sydd â'r un capasiti â safle presennol Lawrenny Avenue.Byddai'n fynediad 10 dosbarth, gyda lle i hyd at 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth. 

Disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2022, a byddai'r ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys man gemau amlddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do.Byddai'r rhain, a chyfleusterau eraill yn yr ysgol, ar gael i'r cyhoedd eu llogi i'w defnyddio y tu allan i oriau ysgol. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, ac aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae'r cynnig hwn i adeiladu ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn un o'r cyntaf mewn cyfres o gynlluniau a fydd yn cael eu darparu o dan ein rhaglen ysgolion ac addysg y 21ainganrif Band B, sy'n werth £284 miliwn. 

"Byddai'r cartref newydd sbon i Fitzalan yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf, gan sicrhau y bydd disgyblion yn yr ysgol yn gallu manteisio ar amgylchedd dysgu o'r ansawdd gorau i gefnogi a gwella'r addysgu a'r dysgu. 

"Mae Band B, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynrychioli'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn ein hysgolion.Drwy'r buddsoddiad hwn gallwn adeiladu ar y momentwm o'r £164m rydym wedi'i roi tuag at ysgolion newydd dros y pum mlynedd diwethaf, a mynd â'n Rhaglen Ysgolion ac Addysg y 21ainGanrif i lefel arall. 

"Mae ein Huchelgais Prifddinas yn gwneud ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn gwella ac ehangu ein hysgolion.Bydd hyn nid yn unig yn diwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu'n gyflym, mae'n rhoi sylw i'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw hanesyddol mewn adeiladau ysgolion.Dim ond dechrau cyfnod nesaf ein buddsoddiad mewn ysgolion yw'r cynnig a gyflwynir ar gyfer Fitzalan newydd, ac mae'n arwydd o ddechrau rhaglen adeiladu enfawr a fydd yn darparu ysgolion cynradd newydd ac ysgolion uwchradd newydd, mewn addysg prif ffrwd ac anghenion arbennig." 

Mae'r adroddiad sydd i'w ystyried gan y Cabinet yn argymell bod cynnig Ysgol Uwchradd Fitzalan yn symud ymlaen i'r cam caffael wrth weithredu. 

Byddai union ddyluniad a chynllun y safle ar gyfer yr ysgol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, ac yn amodol ar gynllunio.

Mae copi llawn o'r adroddiad ar gael i'w weld ar-lein arwww.cardiff.gov.uk/meetings. 

Projectau o dan Raglen Band B Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ainGanrif Caerdydd  

Ysgolion Uwchradd

  • Ailadeiladu pedair ysgol uwchradd - Fitzalan, Willows, Cathays a Cantonian
  • Ehangu Ysgol Uwchradd Caerdydd i letya 1,500 o ddisgyblion, i fyny o'r 1,200 presennol, yn ogystal â'r chweched dosbarth  

Ysgolion Cynradd

  • Nant Caerau, Fairwater a Pen y Pil yn dyblu o ran maint, gyda phob un yn gallu lletya 420 o ddisgyblion, ynghyd â meithrinfa
  • Bydd Ysgol Gynradd St Mary the Virgin yn cael ei hailadeiladu, gan ddyblu ei maint o'i chapasiti presennol o 210 disgybl 

Ysgolion Arbennig

Mae cynigion Band B Caerdydd yn cynnwys ehangu ac ail-lunio'r ddarpariaeth anghenion arbennig ar gyfer y ddinas.Bydd pedair ysgol arbennig newydd yn cael eu hadeiladu, gan aildrefnu darpariaeth i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, awtistiaeth, anableddau dysgu difrifol a chymhleth ac anghenion iechyd a lles emosiynol yn y ffordd orau. 

£164m Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif 2014 hyd at Ebrill 2019

  • Dwy ysgol uwchradd newydd:
    • Ysgol Uwchradd y Dwyrain, ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro, ar gampws dysgu a rennir arloesol
    • Ysgol Uwchradd Gymunedol y Gorllewin, ysgol fraenaru â phartneriaid creadigol, sydd i agor dros y Pasg
       
  • Chwe ysgol gynradd newydd:
    • Pontprennau
    • Howardian
    • Ysgol Glan Morfa
    • Ysgol Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal
    • Ysgol Hamadryad
       
  • Gwelliannau i ysgolion sy'n bodoli eisoes, er enghraifft:
    • ‘Ciwb Dysgu' Ysgol Gynradd Coed Glas
    • Estyniad i Ysgol Gynradd Adamsdown