Back
Gwasanaeth Pryd ar Glud yn mynd i’r Fro


Mae gwasanaeth llwyddiannus Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn ehangu i gynnig prydau i drigolion Bro Morgannwg.

 

Ers 2014, pan ataliodd tua chwarter awdurdodau lleol y DU eu gwasanaeth Pryd ar Glud i bobl hŷn neu agored i niwed, mae Caerdydd wedi bod yn tynnu'n groes ac yn ehangu er mwyn sicrhau y caiff mwy fyth o gwsmeriaid yn yr ardal fwynhau cael danfon bwyd cynnes a maethlon at eu drws.

 

Saith niwrnod yr wythnos, bob dydd yn y flwyddyn, gall ein gyrwyr cyfeillgar nawr ddanfon i gwsmeriaid yn nwyrain Bro Morgannwg, gan gynnwys Dinas Powys, y Sili, Llandochau, Penarth a Gwenfô. Yn ogystal â chynnig prydau amser cinio sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddietau a chyflyrau, bydd y tîm yn cynnal prawf llesiant ar gyfer cwsmeriaid unigol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn i'r gwasanaeth Pryd ar Glud - rydym ni wrth ein boddau y bydd pobl mewn ardaloedd Bro Morgannwg, yn ogystal â'n cwsmeriaid ni yng Nghaerdydd, nawr yn gallu manteisio ar y gwasanaeth cymunedol fforddiadwy hwn.

 

"Mae'r gwasanaeth yn llawer mwy na danfon pryd, mae'n rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a'u hanwyliaid trwy gynnig rhyngweithio cymdeithasol a phrawf llesiant gofalgar.

 

"Mae ein gallu i estyn ein cynnig i bobl sy'n fyw yn nwyrain y Fro hefyd yn dangos aeddfedrwydd y partneriaethau ym Mwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro."

 

Gall teulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol gyfeirio cwsmeriaid at ein gwasanaethau. Mae'n rhaid i unigolion fodloni un o'r meini prawf canlynol i fod yn gymwys:

 

  • Yn ei chael hi'n anodd paratoi pryd o fwyd yn ddiogel
  • Person sy'n ei esgeuluso ei hun neu a fyddai'n bwyta diet amhriodol heb y gwasanaeth
  • Methu â siopa am fwyd
  • Anabledd meddwl neu gorfforol
  • Angen cymorth ar ôl gadael yr ysbyty neu wedi salwch; gofalwr yn sâl neu ar wyliau, neu brofedigaeth. 
  •  

Nid ar gyfer pobl hŷn yn unig mae'r gwasanaeth; 20 oed yw cwsmer ieuengaf Pryd ar Glud ac mae'r hynaf yn 102!Gall cwsmeriaid ddewis pryd a pha mor aml yr hoffent gael prydau.

 

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/prydargludneu ffoniwch 029 2053 7080.