Back
Gwaith i ddechrau ym Mharc Cefn Onn
Bydd gwaith i wella Parc Cefn Onn yn dechrau wythnos nesaf. 

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect £660,000 a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a fydd yn dod â nifer o welliannau i’r parc gwledig hanesyddol rhestredig Gradd 2 yng ngogledd Caerdydd a’r cyfleusterau, gan gynnwys mynediad gwell, arwyddion gwell, gwelliannau i byllau a chyrsiau dŵr a thai bach gwell.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu grant o £459,000 i’r cynllun, a bydd gwaith i alluogi’r cam cyntaf o welliannau, y disgwylir iddo gymryd tua pedwar mis i’w gwblhau, yn dechrau ddydd Llun 4 Chwefror.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Pant yn rhan uchaf y parc ar gau i’r cyhoedd.Bydd mynediad ar hyd y rheilffordd i’r coetiroedd a’r rhwydwaith o lwybrau cerdded y tu hwnt i’r parc ar gael o hyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Mae Parc Cefn Onn yn drysor yng ngogledd y ddinas ac mae’n wych gweld y prosiect i warchod a gwella’r parc coetir unigryw hwn yn dechrau.  

 “Dim ond cam cyntaf y prosiect yw’r gwaith a fydd yn dechrau wythnos nesaf. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo ac annog defnydd o’r parc gan amrywiaeth eang o ymwelwyr o bob oedran a gallu, ynghyd â gwneud gwelliannau ffisegol i’r parc.

 “Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster y mae hyn yn ei achosi i ymwelwyr â’r parc, ond diolchwn hefyd i bawb am eu hamynedd wrth i ni weithio i wella’r llecyn hardd lleol hwn a sicrhau y gall ymwelwyr ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

I ddysgu mwy am y prosiect a gweld map yn dangos y cyfyngiadau a fydd ar waith o 4 Chwefror, ewch i www.caerdydd.gov.uk/parcgwledigcefnonn