Back
17 o bethau sydd angen i chi eu gwybod am gynigion cyllideb gweinyddiaeth Cyngor Caerdydd ar gyfer 2019/20
  • Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu bwlch yn ei gyllideb o £ 32.4m yn 2019/20

 

  • Mae arbedion o £218m eisoes wedi eu gwneud dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

  • Mae'r cynigion yn argymell codi'r dreth gyngor gan 4.9% (£1.09 yr wythnos ar eiddo Band D)

 

  • Bydd codiad o 4.9% yn y dreth gyngor yn codi £6.7m i'w osod yn erbyn y bwlch yn y gyllideb o £32.4m

 

  • Caiff gweddill y bwlch ei bontio drwy ganfod arbedion o £19m

 

  • Defnyddio £2.75m o gronfeydd y Cyngor

 

  • Capio twf cyllideb ysgolion o £3.5m

 

  • Fodd bynnag, bydd ysgolion yn derbyn £10.4m yn fwy na'r llynedd - cynnydd o 4.5%

 

  • Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn cael £5m ychwanegol i helpu i ymdopi â'r galw cynyddol

 

  • Bydd £1m ychwanegol yn mynd at atgyweirio priffyrdd eleni ar ben gwariant sydd eisoes wedi'i gynllunio

 

  • Bydd £750,000 yn cael ei wario ar ddiogelu llwybrau bws hanfodol, dielw yn y ddinas

 

  • Bydd £312,000 yn cael ei wario ar lanhau dwys a chlirio strydoedd

 

  • Bydd £300,000 ychwanegol yn mynd i helpu i ymdrin â phwysau digartrefedd yn y dyfodol

 

  • Bydd £180,000 yn cael ei wario ar dreialu technoleg glanhau strydoedd newydd

 

  • Bydd £100,000 ychwanegol yn mynd ar gyflawni cynlluniau teithio llesol i ysgolion

 

  • Bydd £50,000 yn mynd i helpu i ddatblygu ymgyrch Carwch eich Cymuned ac annog mwy o wirfoddolwyr

 

  • Bydd £50,000 yn mynd i wella cyfleusterau mewn ymateb i'r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus