Back
Cwestiynau ac atebion ar y project aer glân

Pam fod y Cyngor yn ystyried mesurau i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd?

Cafodd Llywodraeth Cymru law yn llaw â llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill eu herio yn yr Uchel Lys gan ClientEarth ynghylch lefelau gormodol o Nitrogen Deuocsid (NO2) yn rhannau o'r DG, gan gynnwys Cymru.Roedd ClientEarth yn llwyddiannus yn yr achos llys ac yn Ionawr 2018 gwnaeth llywodraeth Cymru gytundeb cyfreithiol â ClientEarth i gymryd camau i ddod â'r lefelauNO2i lawr i'r hyn a ganiateir a hynny yn yr ‘amser byrraf posibl'.

Beth sydd a wnelo hynny â Chaerdydd?

Yn unol â'r cytundeb â ClientEarth, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd cyfreithiol i Gyngor Caerdydd gynnal astudiaeth yn y ddinas i ganfod sut y gellir lleihau'r lefelau NO2yn yr ‘amser byrraf posib'.

Beth oedd canlyniad yr astudiaeth i lygreddNO2yn y ddinas felly?

Mae'r astudiaeth gychwynnol wedi canfod  erbyn 2021 y bydd Stryd y Castell wedi torri Cyfarwyddyd yr UE ynghyd a rhai strydoedd eraill sy'n peri pryder.

Beth fydd yr ateb?

Fel y nodwyd yn y cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru, mae Achos Busnes Amlinellol wedi ei baratoi sy'n cymharu rhestr fer o fesurau yn erbyn codi am barth aer glân.Mae'r Achos Busnes Amlinellol wedi dod i'r casgliad y bydd y mesurau yn dod a lefelauNO2lawr i lefelau sy'n cydymffurfio heb yr angen i gael PAG.Rhestr y mesurau yw:

  • Rhoi bysus trydanol ar waith i ddisodli'r bysus hynaf sy'n llygru fwyaf
  • Cyflwyno Cynllun Ôl-osod Bysiau ar gyfer gweithredwyr bws yng Nghaerdydd i ddiweddaru bysus hŷn fel eu bod yn cyrraedd safonau allyriadau injan Euro 6
  • Newidiadau mawr yn Stryd y Castell a Heol y Porth a chylched canol y ddinas er mwyn galluogi trafnidiaeth gyhoeddus (bysus) i symud yn fwy effeithlon a gwella capasiti teithio actif Canol y Ddinas.
  • Adolygu a gweithredu polisi tacsi diwygiedig i sicrhau mai dim ond i gerbydau sy'n cyrraedd safonau allyriadau diweddaraf Euro 6 y caniateir ‘trwydded cerbyd newydd' neu ‘newid cerbyd ar drwydded gyfredol'.
  • Gwelliannau i Deithio Llesol a phennu rhagor o ardaloedd 20 mya

Beth yw statws y projectau hyn? A ydynt wedi eu cymeradwyo?

Ar y cam hwn maent yn cael eu cynnig i'r cabinet fel cysyniad. Mae'r Pwyllgor Trwyddedu Diogelu'r Cyhoedd wedi cymeradwyo ymgynghoriad gyda'r fasnach a gyda'r cyhoedd ar y newidiadau arfaethedig i'r polisi trwyddedu tacsis. Caiff y cynlluniau unigol a'r dyluniad cysylltiedig eu cyflwyno i'r cabinet i'w cymeradwyo ar ddyddiad yn y dyfodol a bydd rhaid cwblhau unrhyw ymgynghoriad statudol a fydd ei angen ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig.

Beth sy'n cael ei wneud i helpu pobl fabwysiadu teithio llesol?

Mae llawer o welliannau eisoes ar y gweill:

  • Mae cynlluniau uchelgeisiol gan Gaerdydd i wella llwybrau cerdded a beicio ar draws y ddinas dros y 3 blynedd nesaf.
  • Mae cynllun llogi beics cyhoeddus nextbike yng Nghaerdydd wedi dangos cronni yn y galw am feicio yn y ddinas, ac wedi bod yn hynod lwyddiannus.Llogir beiciau dros 10,000 o weithiau yr wythnos, ac mae dros 36,000 o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio'r beics.Maen nhw'n wych ar gyfer siwrneiau byrion o amgylch y ddinas y byddech efallai wedi defnyddio car ar eu cyfer yn y gorffennol, ac mae'n rhwydd, yn gyflym ac yn hwyl.
  • Cyflwynodd Bws Caerdydd daliad digyffwrdd - os nad oes newid mân gennych bob tro mae hwn yn gallu gwneud gwahaniaeth anferth achos dim ond dangos y cerdyn banc i'r peiriant sydd ei angen wrth gamu ar y bws.
  • Metro De Cymru - bydd datblygu'r Metro dros y 5 mlynedd nesaf yn arwain at gynyddu amlder y trenau, gorsafoedd newydd, a cherbydau trên newydd gyda mwy o le ar gyfer beics.

Mae cynigion ychwanegol wedi eu disgrifio ynPapur Gwyrdd

Trwy'r cynlluniau hyn mae bwriad i drawsnewid system drafnidiaeth Caerdydd dros y 5 mlynedd nesaf yn un addas i'r 21ain Ganrif, gan ei osod gyfuwch a dinasoedd blaengar eraill ar draws y byd.Byddai hyn yn rhywbeth y gallem oll fod yn falch ohono - yn ogystal â helpu i wella ansawdd yr aer i bawb sy'n byw. Gweithio ac ymweld â'r ddinas.

Pam y dewiswyd cynllun codi atal ar gyfer parth aer glân fel y meincnod yn y cynllun Busnes Amlinellol?

Roedd hyn yn ofyniad cyfreithiol yng nghyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, fodd bynnag mae'r canllaw gan Uned Ansawdd Aer Ar y Cyd Llywodraeth y DG yn ei gwneud yn gwbl eglur y dylid ond gweithredu parth aer glân os canfyddir fod dewisiadau nad sy'n codi arian yn aneffeithiol wrth sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posib.

Mae cerbyd disel gen i.Rwyf yn deall mai peiriannau disel sydd yn bennaf gyfrifol am lygreddNO2.A godir arnaf neu a gaf fy atal rhag gyrru yn y ddinas?

Nid yw'r PAG wedi ei ddewis fel y datrysiad a ffefrir.Byddai cynllun o'r fath ond yn cael ei ystyried pe na byddai'r mesurau sydd yn cael eu cynnig yn aflwyddiannus.Gellid gwella ymhellach ar y mesur i ôl-osod y bysiau sydd yn weddill nad sy'n cyrraedd safonau'r peiriannau Euro 6 diweddaraf trwy greu parth allyriadau isel i fysiau o amgylch Stryd y Castell a Heol y Porth, drwy wneud cais am Amod Rheoliad Traffig sy'n mynnu bod pob bws sy'n gweithredu yn yr ardal gyfuwch ei safon â‘r safon Ewro 6/ULEV/EV isaf.Byddai'n rhaid ystyried y cam pellach hwn, os pennir y bydd ei angen, fel rhan o'r Achos Busnes Terfynol.

Beth yw peiriant safonol Ewro 6/ULEV/EV?

Ewro 6 yw chweched Cyfarwyddeb a'r gyfarwyddeb ddiweddaraf gan yr Undeb Ewropeaidd  i leihau llygryddion mewn mwg o bibellau egsôsts.Cyflwynwyd safon Ewro 6 ym mis Medi 2015, a rhaid i bob car a fas-gynhyrchwyd wedi'r dyddiad hwn gyrraedd lefel yr allyriadau hyn.Nod Ewro 6 yw lleihau lefelau niweidiol allyriadau pibellau egsôsts ceir a faniau, mewn ceir petrol a disel.

Mae ULEV yn gerbyd sydd yn cynhyrchu llai na 75g/km oCO2. Mae'n derm cyfansawdd dros grŵp o geir a gall gynnwys gwahanol fathau o gerbydau ynni effeithiol gan gynnwys:

 

Mae sôn am newid trwyddedu tacsis fel rhan o'r mesurau.Beth fydd hyn yn ei gynnwys ac a fydd cymhellion i'r fasnach?

Cynigir fod:

  • Pob cais amdrwydded cerbyd newydd, neunewid cerbyd ar drwydded presennol, yn gorfod cydymffurfio â'r Canllaw Polisi Allyriadau/Oed drafft.

Bydd yr Achos Busnes Llawn ar gyfer y project yn asesu pa mor angen rheidiol fydd cynllun cymhelliant i gynorthwyo masnach Tacsis Caerdydd i uwchraddio cerbydau. Mae cais wedi ei wneud am gyllid i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r project ond nid yw wedi ei gymeradwyo hyd yma a bydd unrhyw gynllun terfynol yn destun ymgynghori pellach gyda'r fasnach dacsis.

Roedd y polisi blaenorol yn gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o gerbydau.Mae'r polisi newydd yn bwriad symleiddio y meini prawf fel y dangosir isod.

Polisi trwyddedu tacsis presennol

 

Manyleb

 

 

Salŵn/MPV

 

Cerbyd Nodedig

 

Cerbyd Hacni a Adeiladwyd yn Arbennig

 

 

Uchafswm oed ar y cais cyntaf

 

 

25 mis

 

O dan 10 mlynedd

 

O dan 10 mlynedd

 

Uchafswm oed trwyddedadwy (oni bai fo'r cerbyd yn cydymffurfio â'r polisi amod eithriadol)

 

 

 

 

6 blynedd

 

 

 

10 mlynedd

 

 

 

10 mlynedd

 

Oed y gall y cerbyd gael i brofi'n flynyddol/cyhoeddi trwydded 12 mis

 

 

 

O dan 4 mlynedd

 

 

O dan 4 mlynedd

 

 

O dan 10 mlynedd

Oed y profir y cerbyd bob 6 mis/cyhoeddi trwydded 6 mis

 

 

 

4 mlynedd

 

 

4 mlynedd

 

 

10 mlynedd

 

Polisi arfaethedig i drwyddedu tacsis newydd

 

Manyleb

 

 

Pob cerbyd â thrwydded

 

Oed cerbyd/safon allyriadau adeg y cais cyntaf

 

 

O dan 5 mlwydd oed ac yn cyrraedd neu'n well na safon Ewro 6.

 

Uchafswm oed trwyddedadwy (oni bai fo'r cerbydau yn cydymffurfio â'r polisi amod eithriadol)

 

 

10 mlwydd oed

 

Oed y gall y cerbyd gael i brofi'n flynyddol/cyhoeddi trwydded 12 mis

 

 

O dan 5 mlwydd oed

 

Oed y profir y cerbyd bob 6 mis/cyhoeddi trwydded 6 mis

 

 

5 mlynedd

Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen?

Yr achos busnes terfynol a fydd yn pennu cyfeiriad y Cyngor.Rhaid i'r datrysiad(au) a ddewisir fod yn gymesur â maint y broblem yng Nghaerdydd a bydd y Cabinet, ar sail y wybodaeth a gaiff ei chyflwyno iddo, yn penderfynu ar y dewis a ffefrir a fydd yn cael ei asesu yn yr achos busnes terfynol.Caiff hyn ei adrodd i Lywodraeth Cymru ddim hwyrach na 30 Mehefin 2019, a chytunir ar amserlen i roi'r cynllun a ffefrir ar waith gyda Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r amserlen ar gyfer y penderfyniad?

Mae'n rhaid cyflwyno'r cynllun terfynol ar y dewis a ffefrir i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2019. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i wneud cais am gyllid i gyflwyno mesurau i leihau llygredd NO2 fel y bydd o dan y gofynion cyfreithiol cyn gynted â phosibl.

Sut fydd y cyhoedd a busnesau yn cael gwybod?

Mae'r Cyngor wedi datblygu cynllun cyfathrebu i gefnogi'r achos busnes ar y mesurau sydd wedi eu dewis.Bydd y cynllun cyfathrebu yn dechrau ar 3 Ebrill a bydd yn para am 6 wythnos, gan ddirwyn i ben ar 15 Mai.Bydd mwy o gyfathrebu wedi hynny i gefnogi'r Achos Busnes Terfynol.