Back
Trechu camfanteisio: Y Cyngor yn arwyddo Datganiad Caethwasiaeth Fodern


 

Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi ei ymrwymiad wrth ddiogelu pobl newydd sy'n agored i niwed mewn datganiad newydd ar sut rheolir ac y lleiheir y risg o gaethwasiaeth fodern yn y ddinas.

 

Rhydd y datganiad, a arwyddwyd ddoe gan Gynrychiolydd Gwrth-Gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol yr awdurdod, y Cyng Chris Weaver a'r Prf Weithredwr, Paul Orders, drosolwg ar gamau gweithredu y mae'r Cyngor wedi eu cymryd yn barod a'r ymdrechion a wna i weithio yn erbyn y potensial ar gyfer caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl yn ei fusnesau neu gadwyni cyflenwi ei hun.

 

Mae'r Cyngor yn barod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, cyflenwyr a darparwyr gwasanaeth i fynd i'r afael â'r heriau y mae caethwasiaeth fodern yn eu peri, a'r Cyngor fu'r corff cyhoeddus cyntaf i arwyddo Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru:Cadwyni Cyflenwi Cyflogaeth Foesegol.

 

Mae nifer o bolisïau a strategaethau hefyd ar waith, yn cynnwys Polisi Diogelu a Chorfforaethol, sy'n nodi'r ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion mewn risg ac i sicrhau bod arferion effeithiol mewn lle trwy'r Cyngor a'r gwasanaethau a gomisiyna.

 

Mae'r datganiad newydd yn nodi rôl bwysig y cyflogeion o ran nodi achosion o gaethwasiaeth fodern neu gamfanteisio a'u cyfrifoldeb i adrodd am bryderon diogelu mewn perthynas â pherson mewn risg. Mae hyfforddiant unigryw wedi ei ddatblygu ar gyfer cyflogeion y Cyngor i adnabod arwyddion caethwasiaeth fodern a gwybod pa gamau y dylent eu dilyn mewn achosion lle amheuir hyn.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad a Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol:"Yn anffodus, nid yw caethwasiaeth yn rhywbeth sy'n perthyn yn unig i lyfrau hanes ac mae ffigyrau'n dangos bod nifer dioddefwyr posibl masnachu pobl yng Nghymru wedi bod yn tyfu dros y blynyddoedd diweddar.

 

"Mae trechu tlodi ac anghydraddoldeb yn flaenoriaeth i ni.Rydym yn ymrwymo wrth arferion cymdeithasol gyfrifol yn y sefydliad ac yn gweithio â phartneriaid a chyflenwyr fel eu bod yn deall ein gwerthoedd a'r disgwyliadau ganddynt.

 

"Ond fel sefydliad sydd ar hyn o bryd yn treulio mwy na £430m gyda dros 8,000 cyflenwr y flwyddyn, er bod ein gwariant yn bennaf gyda chwmnïau yn y DU, rydym yn cydnabod bod ein cadwyni cyflenwi ar draws y byd, a bod potensial o gaethwasiaeth fodern yn y cadwyni hyn os na osodir mesurau cadarn ac effeithiol i leihau'r risg.

 

"Mae'r datganiad newydd hwn yn nodi sut rydym yn mynd â'r agenda ymlaen ac rydym yn parhau i adolygu a datblygu prosesau i fynd i'r afael â'r mater.Bydd staff yn chwarae rôl allweddol o ran diogelu dioddefwyr camfanteisio posibl ac rydym yn ymrwymo wrth gefnogi a hyfforddi ein gweithlu i adnabod arwyddion caethwasiaeth fodern a sut mae adrodd amdanynt."