Back
Dangosiad ffilm fer yn hybu lles meddwl plant

Bydd ffilm fer wedi ei hanimeiddio, sy'n hybu iechyd a lles meddwl plant yn cael ei dangos am y tro cyntaf am 10.00am ar ddydd Mercher 27 Mawrth yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

MaeDiwrnod Meddwlgarwch Bellayn ffrwyth cydweithio creadigol rhwng Ysgol Gymraeg Coed y Gof a Janes Hubbard, enillydd BAFTA ac un o artistiaid Celf Cymunedol Caerdydd a'r Fro.

Syniad Ysgol Coed y Gof oedd y project, sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a'r nod oedd canolbwyntio ar wella iechyd a lles meddyliol plant yr ysgol.

Mae meddwlgarwch yn ein hannog i wrando ar yr hyn sydd yn ein meddwl, ein teimladau a'r hyn sydd yn y byd o'n cwmpas, a hyn i wella lles y meddwl. Cynhaliwyd sesiynau cychwynnol ar fuddion niwroddatblygiadol meddwlgarwch ac yna daeth Caroline Martin i ddysgu technegau a myfyrdodau i'r plant i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau.

Ymunodd yr nimeiddwraig Jane Hubbard, a'i merch Stella, â'r plant i ddatblygu animeiddiadau oedd yn cyflwyno meddwlgarwch o'u safbwynt nhw i weddill yr ysgol.

Dywedodd Nia Norman, sy'n dysgu yn Ysgol Coed y Gof ac a arweiniodd y project:"O'r cychwyn cyntaf, penderfynwyd mai'r disgyblion fyddai'n arwain y project, a chafodd ei gyflwyno i ddisgyblion blwyddyn pump fel cyfle i ddysgu am dechnegau meddwlgarwch.

"Dan gyfarwyddyd Jane a Stella, datblygodd y disgyblion gymeriadau a sgript am feddwlgarwch a sut y gallai effeithio ar fywydau plant, a pham y dylen nhw ymarfer meddwlgarwch. Ochr yn ochr â'r ffilm, datblygodd y disgyblion fyfyrdodau wedi eu hanimeiddio i'r plant eu defnyddio."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae pwysigrwydd bod yn ymwybodol o Iechyd Meddwl a'i effaith ar bobl ifanc wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, ac mae'n amlwg bod hybu iechyd meddwl o oedran ifanc yn hynod bwysig.

"Mae'r project cyffrous hwn yn dangos sut gall technegau meddwlgarwch fod o fudd i blant drwy eu helpu nhw i dreulio ysbaid yn meddwl ac yn teimlo, a'u helpu i'w deall eu hunain yn well a mwynhau'r byd o'u cwmpas.

"Yn broject a gafodd ei arwain gan blant, mae'r ffilm yn dangos y siwrnai aeth y plant arni, buddion meddwlgarwch a sut mae hyn oll yn cael ei roi ar waith yn yr ysgol. Mae'n cadarnhau rôl Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant, lle gwrandewir ar leisiau plant er mwyn helpu i siapio'r amgylchedd a'r gymuned."

ByddDiwrnod Meddwlgarwch Bellaar gael i ysgolion ar hyd a lled Cymru i'w defnyddio fel ffordd i gyflwyno technegau medwlgarwch yn yr ystafell ddosbarth.