Back
Diffoddwch y goleuadau – mae hi’n Awr Ddaear 2019!
Bydd rhai o adeiladau pwysicaf Caerdydd yn diffodd y goleuadau ddydd Sadwrn fel rhan o Awr Ddaear y WWF.

Bydd Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd, yr Eglwys Norwyaidd ac Amgueddfa Stori Caerdydd yn diffodd eu goleuadau allanol ac yn ymuno â channoedd o filiynau o unigolion a busnesau o fwy na 180 o wledydd gwahanol a mwy na 7000 o ddinasoedd i nodi Awr Ddaear o 8.30pm i 9.30pm ddydd Sadwrn 30 Mawrth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:“Ers i’r Cyngor gymryd rhan yn yr Awr Ddaear am y tro cyntaf deng mlynedd yn ôl, rydym wedi cymryd rhai camau sylweddol i leihau’r effaith a gawn ar yr amgylchedd.  Rydym wedi defnyddio pŵer yr Afon Taf i greu trydan adnewyddadwy yng Nghored Radur, gosod goleuadau stryd LED ac, yn ddiweddar, treialu cerbydau trydanol yng nghanol y ddinas, ond gall pob un ohonom wneud mwy fyth.  Rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni wrth nodi Awr Ddaear y penwythnos hwn.”

Mae angen cymryd camau bach cyn cael effaith fawr, ac eleni, yn ogystal â diffodd goleuadau am awr, anogir unigolion a sefydliadau hefyd i newid un peth i amddiffyn y blaned.  P’un a yw hynny’n golygu cynllunio gwyliau yn lleol, cario potel ddŵr amldro neu olchi eich dillad ar 30 gradd, mae gennym oll y pŵer i wneud gwahaniaeth.

https://www.wwf.org.uk/wales/earthhour

#AwrDdaear