Back
Enillwyr y Gamp Lawn i gael eu hanfarwoli mewn cofeb newydd tebyg i 'Mount Rushmore'
Datgelodd Cyngor Caerdydd gynllun i goffau enillwyr Camp Lawn Cymru 2019 gyda chofeb debyg i'r un ar 'Mount Rushmore'.

Byddai’r cynlluniau a gaiff eu trafod heddiw yn cynnwys wynebau'r hyfforddwr Warren Gatland a’r arwr o gapten Alun Wyn Jones yn cael eu cerfio ar glogwyni Ynys Echni.

Y cerflunydd o Korea Li Ar, sy’n byw yng Nghymru erbyn hyn, yw'r ymennydd y tu ôl i'r cerfwaith a fydd yn uwch na 100 troedfedd a disgwylir iddo fod yn atyniad mawr i ymwelwyr.

Dywedodd y cerflunydd Li Ar:  Fe ymwelais i â Mount Rushmore ychydig o flynyddoedd yn ôl ac ers hynny rwyf wedi bod yn breuddwydio i greu rhywbeth tebyg yng Nghymru.  Roeddwn yn trafod syniadau â’r cyngor eisoes, am wneud rhywbeth ar Ynys Echni gyda cherddoriaeth, enwogion megis Tom Jones, Shirley Bassey, Duffy, a phobl fel hyn, ond wedyn cefais y syniad, siŵr o fod ychydig o oriau ar ôl y gêm, ac mae syniadau yn dod ataf i a dweud y gwir, ond meddyliais, pam lai gwneud cerflun o Warren a'r bechgyn?

Symudodd fy nheulu o Dde Korea pan o’n i’n dair oed, a daeth fy nhad yn hoff iawn o rygbi.  Ond rwy’n cofio mynd i Ynys Echni gyda’r ysgol ac yn meddwl, beth yw'r pwynt?  Dim ond llwyth o adar, goleudy a henebion sydd yno.  Nid yw hanes a natur wedi bod yn ddiddorol i fi byth.  Ond byddwn i fod wedi hoffi gweld rhywbeth o’r fath, a gobeithio bydd llawer o ymwelwyr yn teimlo yr un ffordd”.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Syniadau Campus, y Cynghorydd Josh Ing:  “Mae ennill y Gamp Lawn yn gyflawniad sy’n ysbrydoli ac rydym yn gobeithio y bydd yr anrhydedd unigryw hwn yn arddull ‘Mount Rushmore' ar gyfer y tîm yn atyniad twristaidd gwych arall i ymwelwyr â Bae Caerdydd.

 “Bydd y buddsoddiad cychwynnol hwn yn rhoi Ynys Echni ar y map diwylliannol a chwaraeon ac os bydd yn llwyddiannus byddwn yn edrych i ychwanegu rhagor o wynebau at y gofeb, a fydd yn cynnwys enillwyr y Gamp Lawn yn y dyfodol, ond hefyd enwogion hanes rygbi megis Syr Gareth Edwards, JPR a Barry John.”

Disgwylir i waith ar y gofeb gael ei gyflawni erbyn 1 Ebrill, 2020.