Back
Tai arloesol i helpu'r digartref

Bydd llety newydd dros dro a wnaed o gynhwysyddion llongau yn cynnig lle byw arloesol o ansawdd uchel i deuluoedd digartref yng Nghaerdydd cyn bo hir.

 

Caiff y 13 o gartrefi newydd eu hadeiladu ar hen safle PDSA yn Stryd Bute, sy'n perthyn i Gyngor Caerdydd, a bydd yn cynnig llety dros dro i deuluoedd nes y bydd datrysiad tai mwy addas ar gael.

 

Ariennir y cynllun hwn gan Gyngor Caerdydd ar y cyd â Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith yn dechrau ar y safle ym mis Mai, a bydd Cymdeithas Tai Cadwyn yn datblygu'r cynllun ar ran Cyngor Caerdydd ac yn gweithio law yn llaw â Tony King Architects, Willis Construction a Lion Containers.

Bydd saith cartref dwy ystafell wely, wedi'u gwneud o gynhwysyddion 40tr a 20tr, a chwech cartref un ystafell wely a wnaed o gynhwysydd 40tr.

 

Cânt i gyd eu hadeiladu i'r un safonau a gofynion adeiladu â thai fforddiadwy sydd wedi'u hadeiladu'n draddodiadol.Byddant yr un mor gyffyrddus â chartrefi arferol er mwyn cynnal iechyd a llesiant y trigolion a chânt eu dylunio mewn modd sensitif a chlyfar i wneud y gorau o'r gofod sydd ar gael.

C:\Users\c080012\AppData\Local\Microsoft\Windows\Temporary Internet Files\Content.Word\CGI Kids Bedroom.jpg

 

Bydd pob un yn manteisio ar baneli solar ffotofoltaig gyda'r ynni yn mynd i drigolion yn uniongyrchol, system chwistrellwyr, a gofod cyfleustodau preifat a chymunedol i drigolion ei fwynhau.   Bydd mynediad uniongyrchol i ardd wedi ei hamgáu gan yr unedau dwy ystafell wely, fel y gall plant chwarae mewn lle diogel, a bydd gan yr unedau un ystafell wely ar y llawr cyntaf deras to a drws blaen.

 

Disgwylir y bydd y cyfnod adeiladu yn para 20 wythnos, sy'n ganran fach iawn o'r amser y byddai'n cymryd i allu cynnig 13 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu yn draddodiadol.Maent wedi eu dylunio i allu eu symud yn rhwydd i leoliad arall yn y dyfodol, naill ai gyda'i gilydd neu mewn grwpiau llai i wahanol safleoedd.

 

Bydd gwaith paratoi'r safle yn dechrau ym mis Mai, a disgwylir i'r cynhwysyddion gyrraedd ym mis Mehefin.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Tai Cadwyn, Kath Palmer:"Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu llety diogel ar gyfer ein teuluoedd digartref yng Nghaerdydd ac mae'r project hwn yn cynnig cartref dros dro sydd fawr ei eisiau wrth chwilio am ddatrysiadau tai yn y tymor hir."   

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae'r Cyngor bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol y gallwn ni gynnig tai mwy fforddiadwy ar gyfer y ddinas ac mae'r cynhwysyddion llongau hyn yn cynnig datrysiad cost-effeithiol i ddarparu cartrefi i'r rheiny sydd eu hangen yn y ddinas.Rydym hefyd wrthi'n darparu wyth cartref i deuluoedd digartref yn hostel Greenfarm yn Nhrelái.

 

"Mae'r cartrefi sy'n effeithlon o ran ynni yn cynnig rhagor o hyblygrwydd inni o'i gymharu ag adeiladau traddodiadol ac felly gallwn ni ymateb i'r galw newidiol drwy adleoli ac ailddefnyddio'r unedau mewn mannau eraill. Rwy'n hynod falch bod y gwaith ar fin cychwyn ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cartrefi newydd yn y dyfodol agos."

 

 

Bydd hyd yn oed gyfle i bobl leol gymryd rhan wrth adeiladu'r tai gyda Cadwyn a Willis yn gweithio gyda gwasanaethau I Mewn i Waith a sefydliadau cymunedol i gynnig rhaglen hyfforddiant adeiladu 10 wythnos dan oruchwyliaeth gyda'r cyfrifoldeb o baratoi cynhwysydd cyfan.

 

Mae Cadwyn hefyd wedi gweithio'n agos gydag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'rForwyn Fair yn ystod y broses ddylunio, ac mae rhywfaint o'r gwaith celf creadigol ar gael i'w weld ar fyrddau'r project sydd wedi eu codi o amgylch y safle.