Back
Rhaglen uchelgeisiol i adeiladu tai yn y brifddinas


Mae Cyngor Caerdydd wedi amlinellu ei gynllun cyflawni ar gyfer 2,000 o gartrefi cyngor newydd dros y blynyddoedd i ddod.

 

Targed Uchelgais Prifddinas yr awdurdod yw cwblhau o leiaf 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn mis Mai 2022 ac mae cynlluniau ar waith i adeiladu 2,000 o gartrefi cyngor newydd yn y tymor hwy i ateb y galw sy'n cynyddu am dai fforddiadwy.

 

Bydd y cabinet yn ystyried y strategaeth i adeiladu cartrefi newydd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 16 Mai gan gynnwys y safleoedd datblygu a nodwyd ar gyfer rhaglen adeiladu ychwanegol y Cyngor a'r safonau y dylai'r holl gynlluniau lynu atynt, Safon Dylunio Caerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae ein strategaeth newydd yn cynrychioli'r rhaglen adeiladu tai cyngor mwyaf yng Nghymru a buddsoddiad o £280m yn y gwaith o adeiladu cartrefi ynni-effeithlon, cynaliadwy, fforddiadwy o ansawdd ledled y ddinas.

 

"Mae'r angen am dai yn cynyddu bob blwyddyn felly mae'n hanfodol bod gennym gynlluniau ar waith i adeiladu cartrefi newydd i bobl sydd eu hangen.Mae hefyd yn bwysig mai ein cartrefi newydd yw'r cartrefi cywir a'u bod yn targedu anghenion penodol, megis cartrefi i deuluoedd mwy, bod yn ynni-effeithlon i helpu tenantiaid i daclo tlodi tanwydd a bod yn fwy hygyrch i greu lleoedd gwell i bobl a lleihau'r angen am addasiadau i'r dyfodol.

 

"Mae hefyd ffocws go iawn ar dai newydd i bobl hŷn, gan greu llety hygyrch sy'n galluogi preswylwyr i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn annibynnol gyhyd ag y bo modd."

 

Mae'r Cyngor wedi nodi nifer o foddau ar gyfer adeiladu cartrefi newydd gan gynnwys trwy'r cynllun Cartrefi Caerdydd gyda'r datblygwr partner, Wates Residential, prynu'n ôl ar y farchnad agored, pecynnau arbennig gan ddatblygwyr a chymdeithasau tai, addasu adeiladau'r Cyngor ac yn y cyfamser ddefnyddio tir ar gyfer datrysiadau tai arloesol megis cynhwysyddion llongau wedi'u hadnewyddu.

 

Disgwylir i raglen adeiladu newydd ychwanegol y Cyngor adeiladu dros 1,100 o gartrefi newydd, gyda chynlluniau ar gyfer 450 o gartrefi ar Heol Dumballs, 250 o gartrefi ar hen safle Coleg Cymunedol Llanfihangel yn Nhrelái ac adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown i greu 250 o gartrefi newydd pellach.

 

Mae llawer cynlluniau hyn eisoes yn mynd rhagddynt yn dda gyda Cham 1 rhaglen Cartrefi Caerdydd bron wedi'i gwblhau, 37 eiddo wedi'u prynu yn ôl erbyn mis Mawrth 2019, gwaith i newid hen gartref plant yn wyth fflat hygyrch wedi'i gwblhau a phecyn arbennig ar waith gyda Chymdeithas Tai Cadwyn a fydd yn adeiladu 30 fflat cyngor newydd yn Sblot. Mae 64 cartref wedi'u cwblhau, mae 203 yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda channoedd mwy sydd wedi cael caniatâd cynllunio, ar y cam cynllunio neu ar y gweill.

 

Mae'r Cyngor wedi cael pedwar Grant Tai Arloesol gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i roi ei gynllun Passivhaus yn y Mynydd Bychan ar waith, cynllun adeiladu modwlar ynni-effeithlon mawr ym Mhlasnewydd a dau gynllun sy'n cynnig llety dros dro i deuluoedd digartref trwy ddefnyddio cynhwysyddion llongau wedi'u hadnewyddu.

 

Hefyd mae'r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer camau nesaf cynllun Cartrefi Caerdydd, yn dilyn llwyddiant Cam 1. Mabwysiadwyd Safon Dylunio Caerdydd ar gyfer y cynllun Cartrefi Caerdydd ac mae Safon Dylunio Caerdydd ddiwygiedig yn cael ei datblygu i'w rhoi ar waith ar gyfer pob cynllun adeiladu newydd o eiddo'r Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym yn gosod safonau uchel i'n hunain i adeiladu llawer o gartrefi newydd yn gyflym ac yn ogystal â helpu i daclo pwysau tai yn y ddinas, rydym am sicrhau bod y cartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu o ansawdd, wedi'u dylunio i adnewyddu ystadau sy'n bod eisoes a chreu cymunedau cynaliadwy wedi'u cysylltu'n dda ledled Caerdydd."