Back
SHANE WILLIAMS I GROESAWU CWPAN CRICED DYNION Y BYD YR ICC YN Y ‘TAFLIAD MAWR'
Ar ddydd Gwener 31 Mai, ddiwrnod cyn gêm gyntaf Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC yn Stadiwm Cymru Caerdydd, bydd y ddinas yn gefnlen i ddigwyddiad dal a chyfnewid enfawr ac unigryw. Mae trefnwyr y bencampwriaeth yn galw ar aelodau'r cyhoedd - yn ffans criced a chwaraeon eraill - i gymryd rhan yn y digwyddiad dathlu unigryw hwn.

Bydd y ‘Tafliad Mawr' yn cael ei gyflwyno gan gennad Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC, y chwaraewr rygbi arwrol dros lewod Prydain ac Iwerddon a Chymru, Shane Williams. Ac yntau newydd ddychwelyd o ‘Her Rygbi Everest', lle creodd record byd ar gyfer y gêm uchaf o rygbi i gael ei chwarae erioed, mae Shane am geisio torri record, ond ym maes chwaraeon y tro hwn: record y byd ar gyfer y digwyddiad dal a chyfnewid criced hiraf erioed.

Yn cychwyn wrth Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, bydd pêl swyddogol y gêm yn mynd i Stadiwm y Mileniwm, ar dacsi dŵr i Fae Caerdydd, drwy Eisteddfod yr Urdd, ar rickshaw nôl i ganol y ddinas, drwy'r arcedau, fyny'r Stryd Fawr, i'r Castell a Pharc Bute, croesi Afon Taf a chyrraedd Stadiwm Cymru Caerdydd i gael ei derbyn gan gynrychiolwyr o dimau criced Seland Newydd a Sri Lanka. Bydd aelodau o'r gymuned, clybiau criced, ysgolion a'r cyhoedd yn helpu'r bêl i gyrraedd pen ei thaith.

Wrth gyrraedd Stadiwm Cymru Caerdydd, bydd dathliad arbennig, lle gall chwaraewyr maes y ‘Tafliad Mawr roi prawf ar eu sgiliau criced, gael eu llun wedi ei dynnu gyda Chwpan Criced Dynion y Byd yr ICC a chael cyfle i gwrdd â Shane Williams a chwaraewyr Clwb Criced Morgannwg.

I ymuno â Shane i fod yn rhan o'r ‘Tafliad Mawr, rhaid cofrestru diddordeb ynwww.universe.com/the-ultimate-delivery.com.

Dywedodd yr arwr Rygbi, Shane Williams, "Dwi wedi cyffroi'n lân o gael bod yn rhan o'r ‘Tafliad Mawr' a rhoi prawf ar fy sgiliau criced. Gobeithio y bydd cynifer â phosibl o bobl Caerdydd yn cymryd rhan, ac y gallwn chwalu record - a chael lot o hwyl. Am ffordd wych o ddathlu Cwpan Criced y Byd yn dod i Gaerdydd a Chymru."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury, "Mae Caerdydd yn hynod falch ac yn llawn cyffro o gael croesawu Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC i'r ddinas a bydd gweld y Tafliad Mawr yn cyrraedd tra'n torri record yn brofiad gwych i bawb a fydd yn rhan o'r ymdrech.

"Mae treftadaeth criced a chwaraeon gref gan Gaerdydd ac rydym yn mawr obeithio y bydd ‘Tafliad Mawr' yn cysylltu, yn diddanu ac yn ysbrydoli'r gymuned leol a chefnogwyr Cwpan Criced y Byd.Edrychwn ymlaen at groesawu cefnogwyr chwaraeon hen ac ifanc i gymryd rhan, gan greu digwyddiad cwbl gofiadwy i'r ddinas gyfan."

Am ragor o wybodaeth am Gwpan Criced Dynion y Byd yr ICC 2019, cliciwchyma.

 

YNGHYLCH CWPAN CRICED DYNION Y BYD YR ICC 2019

 

·         Bydd y bencampwriaeth yn digwydd rhwng 30 Mai a 14 Gorffennaf.

·          Bydd y gemau cynderfynol ar faes Old Trafford Manceinion ac Edgbaston Birmingham ar 9 ac 11 Gorffennaf, a'r gêm derfynol yn Lord's ar 14 Gorffennaf. Bydd 11 o leoliadau'n cael eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr, sef Stadiwm Cymru Caerdydd yng Nghaerdydd (4 gêm), Bristol County Ground ym Mryste (3 gêm), County Ground Taunton yn Taunton (3 gêm), Edgbaston yn Birmingham (5 gêm, gan gynnwys yr ail gêm gynderfynol), Hampshire Bowl yn Southampton (5 gêm), Headingley yn Leeds (4 gêm), Lord's yn Llundain (5 gêm, gan gynnwys y ffeinal), Old Trafford ym Manceinion (6 gêm, gan gynnwys y gêm gynderfynol gyntaf), Yr Oval yn Llundain (5 gêm, gan gynnwys gêm agoriadol y bencampwriaeth), The Riverside Durham yn Chester-le-Street (3 gêm) a Trent Bridge yn Nottingham (5 gêm)

·         Bydd y 10 tîm yn y bencampwriaeth yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn fformat cynghrair sengl, gyda'r pedwar tîm uchaf ar ôl 45 o gemau yn mynd yn eu blaenau i'r ddwy gêm gynderfynol.

·         Mae Cymru a Lloegr wedi cynnal Cwpan Criced Byd yr ICC yn y gorffennol, ym 1975, 1979, 1983 a 1999

·         Awstralia yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes Cwpan y Byd, wedi ennill cystadlaethau yn 1987, 1999, 2003, 2007 a 2015. Enillodd India'r Gorllewin yn 1975 a 1979, ac enillodd India yn 1983 a 2011. Enillodd Pacistan yn 1992 a Sri Lanka yn 1996.