Mae'r
digwyddiad - ‘Terfysgoedd Hiliol Caerdydd: 100 mlynedd yn ddiweddarach', ddydd
Sadwrn 15 Mehefin yn lansio project newydd gan y gwneuthurwr ffilm a theatr,
Gavin Porter o'r enw ‘People of Butetown'.
Ynghyd
â grŵp o artistiaid, gan gynnwys Ali Goolyard, Kyle Legall, Zaid Djerdi ac
Anthony Ward, nod y project yw dod â safbwyntiau newydd ar stori'r terfysgoedd
a stori cymuned Butetown.
Dywedodd
Gavin, sydd o Butetown:"Mae
diddordeb gen i yn themâu lleisiau a chynrychiolaeth, yn arbennig felly llais
pwy sy'n cael ei glywed.Rwy'
wedi fy nghyffroi o fod yn gweithio ar y project hwn gydag artistiaid o
Butetown, ac o ddweud stori creu chwedlau, gwydnwch a chreadigrwydd."
Bydd
yr arddangosfa aml-blatfform yn dweud storïau'r rhagfarn a hiliaeth a brofwyd
gan bobl Butetown, ac yn dathlu gwydnwch y gymuned, gan mlynedd yn
ddiweddarach. Bydd y gwaith celf newydd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa
Caerdydd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn ogystal â
chynnal gweithdy gyda Porter, bydd yr arddangosfa'n cynnal nifer o sgyrsiau a
sesiynau gwybodaeth gan sefydliadau partner, sydd â'r nod o ddod â phobl ynghyd
i fyfyrio ar hanes a gwaddol y terfysgoedd.
Dywedodd
yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Ei hamrywiaeth yw un o
gryfderau Caerdydd, ond ni ddylech fyth anwybyddu eich hanes - roedd y terfysgoedd
gan mlynedd yn ôl yn isafbwynt yn hanes gweddol gytûn y ddinas tan hynny, a
gobeithiaf y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i sicrhau bod hwn yn ddarn o hanes
na chaiff fyth ei ailadrodd."
Esbonia
Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers:"Rydym
wedi bod yn gweithio'n agos gyda chymuned Butetown ar sut orau i nodi'r
digwyddiad hwn. Mae
Terfysgoedd Hiliol Caerdydd yn ddigwyddiad cywilyddus yn ein hanes, ond mae
angen i ni gydnabod ac i ddysgu oddi wrtho - neu fel arall nid ydym yn gwneud
cymwynas i'r cymunedau a'r unigolion hynny y bu hyn yn effeithio arnyn
nhw. Mae'n bwysig nad
ydym yn dewis ac yn dethol y gwersi yr ydym yn eu dysgu o hanes - mae angen i
ni ddysgu o'r 'gwael' a'r 'da' yn ein gorffennol."
Dyma
amserlen y digwyddiad am ddim ddydd Sadwrn:
·
Archwilio'r gorffennol a'r presennol(10am
- 3pm)
Dysgwch
ragor am gasgliadau Amgueddfa Caerdydd, Archifau Morgannwg a Llyfrgell
Treftadaeth Cathays, ynghyd â gwaith Race Equality First yn ein sesiwn
wybodaeth galw heibio.
·
Barn ar y Terfysgoedd(11am
- 12pm)
Sgyrsiau
byr gan Gaynor Legall (Cyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol), Mike Pearson a
Chris Rushton (Cynyrchiadau Gritty)
·
Dewch i gwrdd â'r gwneuthurwr
ffilmiau, Gavin Porter(12.30pm - 1.30pm)
Ymunwch
â ni am sgwrs gyda Gavin Porter a'i ffrindiau wrth iddo ddechrau ar y daith o
greu gwaith newydd ar Derfysgoedd Hiliol 1919 a'u gwaddol yng Nghaerdydd.
·
Sgrinio ffilm(2pm)
Dangosiad
o Dock of the Bay gan ITV Cymru Wales, sy'n cynnwys yr artist ac ymchwilydd o
Gaerdydd, Dr Adeola Dewis.
Bydd
hefyd arddangosfa o erthyglau papur newydd a chofnodion eraill o adeg y
terfysgoedd, yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays yn ystod mis Mehefin.