Back
Rhannu datrysiadau â phartneriaid sector cyhoeddus


Bydd IG Solutions, gwasanaeth hyfforddiant llywodraethu gwybodaeth Cyngor Caerdydd, yn arddangos yn Expo Datrysiadau Sector Cyhoeddus 2019 yn Llundain yn ddiweddarach y mis yma.

 

Mae'r gwasanaeth yn cynnig datrysiadau dysgu o safon uchel i wasanaethau sector cyhoeddus ac eisiau ehangu ei sail cleientiaid drwy arddangos ei arbenigedd ym mhrif ddigwyddiad sector cyhoeddus y DU yn ExCeL ar 25 a 26 Mehefin.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver, "Sefydlwyd IG Solutions i rannu gwybodaeth ac arbenigedd helaeth ein timau Diogelu Data a Llywodraethu Gwybodaeth mewnol â phartneriaid sector cyhoeddus ledled y wlad.

 

"Mae yna lawer o rwystrau sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth data ond mae IG Solutions yn cynnig hyfforddiant ymarferol i helpu sefydliadau i oresgyn unrhyw heriau y gallent ddod ar eu traws, i ddeall eu cyfrifoldebau i osgoi dirwyon posib a niwed i enw da.

 

"Mae hwn yn gyfle gwych i'r tîm rannu arfer gorau a hyrwyddo'r datrysiadau arloesol rydym wedi'u datblygu i helpu partneriaid i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol."

 

Ynghyd â chynnig cyngor a hyfforddiant i gyfarwyddiaethau yng Nghyngor Caerdydd, mae IG Solutions hefyd yn cynnig cymorth diogelu data a llywodraethu gwybodaeth i ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

 

Dywedodd Adrian Dinsmore, Pennaeth Ysgol Gynradd Hawthorn yng Nghaerdydd:"Mae GDPR wedi cael effaith ar y ffordd mae sefydliadau proffesiynol yn casglu a defnyddio gwybodaeth. Gall fod yn frawychus, ac nid yw'r holl gamsyniadau ynglŷn â'r maes hwn yn helpu pethau.Yn fy marn i mae dull gweithredu a chyngor y tîm yn broffesiynol ac yn gefnogol. 

 

"Yn ôl yr angen, treuliwyd amser yn cynnig cyngor cytbwys ar feysydd allweddol a rhoddwyd sicrwydd o ran sut roeddem yn rhannu gwybodaeth. Rhoddodd hyn hyder i ni o ran sut mae ymdrin â materion sensitif."

 

Bydd IG Solutions yn arddangos yn stondin E1 yn Expo Datrysiadau Sector Cyhoeddus 2019.

 

I gael rhagor o wybodaeth am IG Solutions, ewch ihttps://www.infogovernancesolutions.co.uk