Back
Mae parc cyhoeddus cyntaf Caerdydd yn 125 oed yr wythnos hon
125 mlynedd yn ôl cafodd Parc y Rhath, parc cyhoeddus cyntaf Caerdydd, ei agor gan Iarll Dumfries, mab Ardalydd Bute, a oedd yn 13 oed ar y pryd.  

Cafodd y digwyddiad, ar 20 Mehefin 1894, ei ddathlu gyda gorymdaith a chwaraeon dŵr ar y llyn 30 erw, a wnaed â llaw.

Cafodd y parc, a adeiladwyd ar hen gors a roddwyd gan Arglwydd Bute rhwng Penylan Road a safle Fferm Fairoak ar y pryd, ei adeiladu ar sail galw mawr gan y cyhoedd, ac roedd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y safle 121 erw yn cynnwys ail lyn artiffisial ym mhen gogleddol y parc, ar safle’r Gerddi Gwyllt nawr.

Dechreuodd y gwaith adeiladu, gan gynnwys dargyfeirio Nant Lleucu i greu’r Tir Hamdden, yn ystod 1890, ac erbyn diwedd 1892 roedd y ffyrdd a’r llwybrau wedi’u gosod, llawer o lwyni a choed wedi’u plannu, a phum ynys wedi’u creu i greu cartrefi i adar y dŵr.

Defnyddiwyd deunydd o’r gwaith o gloddio’r ffyrdd i adeiladu’r argae sydd nawr yn ffurfio'r promenâd.Cafodd y llyn ei lenwi â dŵr ym mis Rhagfyr 1893 a chwblhawyd y gwaith plannu yn y misoedd cyn yr agoriad, gyda llawer o’r planhigion ar gyfer y gerddi botaneg yn cael eu llenwi â phlanhigion o Erddi Kew.

Cyn yr agoriad, roedd yr enw ‘Parc Arglwyddes Bute’ wedi’i ystyried, ond erbyn Mawrth 1894 roedd yr enw ‘Parc y Rhath’ mewn defnydd.

Costiodd y project cyfan £70,000 i’w gwblhau, a daeth y parc yn hynod o boblogaidd mewn dim o dro.Ar ddechrau’r 1900au roedd llwyfan bandiau'r parc yn cynnal cerddoriaeth fyw o fis Mai i fis Awst, gyda 500 o gadeiriau ar gael i’w llogi.Dros un ŵyl y banc ym mis Mai 1908, mae’n debyg fod rhwng 30 a 40,000 wedi ymweld â’r parc.

Roedd y perfformiadau, a ehangodd i gynnwys cyngherddau corau o 1906, mor boblogaidd nes i oleuadau trydan gael eu gosod i ymestyn y tymor a llwybrau gael eu llydanu i leihau tagfeydd.Ym 1921 cafodd pafiliwn cyngherddau ei adeiladu i roi cysgod i gwsmeriaid rhag y gwynt a’r glaw, a chafodd yr ardal (lle mae’r maes chwarae i blant nawr) ei dynodi’n ‘lawnt ddawnsio’.  Arhosodd y llwyfan bandiau yno tan 1943 pan gafodd ei dynnu i lawr a’i ailgodi ar ei safle presennol - Gerddi'r Faenor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Allan o holl barciau a mannau gwyrdd godidog Caerdydd, Parc y Rhath yw un o’r rhai mwyaf eiconig a phoblogaidd.  Prin yw’r trigolion lleol sydd heb fynd am dro o gwmpas y llyn ar ddydd Sul, cicio pêl o gwmpas y Maes Hamdden, crwydro drwy'r goedwig law drofannol yn y Tŷ Gwydr neu fwynhau picnic yn y Gerddi Pleser rywbryd neu'i gilydd.”

 “Wrth gerdded o gwmpas y parc hwn, sydd wedi ennill gwobrau, mae’n anodd dychmygu mai cors ydoedd ychydig yn fwy na 125 o flynyddoedd yn ôl.  Mae’r parc wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd, ond rwy'n siŵr y byddai William Pettigrew, Prif Arddwr cyntaf Caerdydd a'r gŵr y tu cefn i lawer o barciau Caerdydd, gan gynnwys Parc y Rhath, wedi bod yn falch o’r gwaith y mae’r tîm sy’n gofalu am y parc heddiw yn ei wneud i’w gadw ar ei orau.”

Mae Parc y Rhath yn un o ddeuddeg o barciau a mannau agored yng Nghaerdydd sydd wedi ennill statws mawreddog y Faner Werdd, a roddir ar sail wyth maen prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Cafodd y parc ei enwi’n Barc Gorau Cymru yng ngwobrau Meysydd Chwarae Cymru 2017.

Gyda diolch i Andy ac Anne Bell yn www.cardiffparks.org.uk