Back
Cynlluniau i barhau Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth ym Mhlasnewydd
Cafodd fesurau i wella safonau eiddo rhent yn ardal Plasnewydd y ddinas eu cymeradwyo gan y Cabinet.

Mae’r cynllun trwyddedu ychwanegol cyfredol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn yr ardal yn dod i ben ym mis Tachwedd eleni ac mae Cabinet wedi cytuno i ymgynghoriad statudol gyda phartïon â diddordeb ar ailgyhoeddi’r cynllun am bum mlynedd arall.

Gall y Cyngor ddyrannu ardaloedd ar gyfer trwyddedu ychwanegol lle bo cyfran sylweddol o Dai Amlfeddiannaeth yn cael eu rheoli’n aneffeithiol a bod rheoli gwael yn effeithio ar y meddiannwyr neu’r cyhoedd.  

Cyflwynwyd y cynllun am y tro cyntaf ym Mhlasnewydd yn 2014 gyda’r nod o wella safonau eiddo rhent preifat yn ogystal â materion cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd ynni a diogelwch eiddo.  Ers hynny, bu manteision sylweddol yn yr ardal i denantiaid, landlordiaid cyfrifol a phreswylwyr drwy sicrhau ansawdd da o dai a mynd i'r afael â materion sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd.

Fodd bynnag, tra bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud, mae llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau’r holl welliannau sydd eu hangen a bydd angen gweithredu’r cynllun am bum mlynedd arall er mwyn i’r cynllun gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:“Mae cynlluniau trwyddedu ychwanegol yn ffordd werthfawr i’r Cyngor ddiogelu tenantiaid y sector preifat rhag tai o ansawdd gwael, peryglon a landlordiaid twyllodrus.

 “Mae ein tîm gorfodi tai wedi gweld cynnydd yn nifer yr addasiadau peryglus o eiddo gan landlordiaid, gan ddiystyru gofynion rheoleiddio cynllunio ac adeiladu’n aml.Mae eiddo eraill mewn cyflwr gwael ac o bosibl yn peryglu'r bobl sy’n byw yno a’r cyhoedd.

 “Bydd ailgyhoeddi Plasnewydd yn ardal i gael trwyddedu ychwanegol yn galluogi’r Cyngor i wneud rhywfaint o waith i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i dargedu ardaloedd y mae llawer o dai amlfeddiannaeth ynddynt, i helpu i wella ansawdd eiddo rhent preifat yn sylweddol, gan adeiladu ar lwyddiant y pum mlynedd ddiwethaf.”

Mae’r adroddiad i’r Cabinet heddiw hefyd yn rhoi diweddariad ar newidiadau yn Lloegr sy’n cael eu hystyried yng Nghymru ar hyn o bryd, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y ffordd y trwyddedir tai amlfeddiannaeth yng Nghaerdydd, pe baent yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Cytunodd Cabinet i awdurdodi swyddogion i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am gefnogaeth Caerdydd i’r cynnig i ymestyn trwyddedu gorfodol ond i gynnwys adeiladau wedi’u haddasu’n wael hefyd.