Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae
Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan,
Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a
Pharc Victoria oll wedi llwyddo i gadw'r marc ansawdd rhyngwladol hwn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y
Cynghorydd Peter Bradbury:“Gwyddom pa mor bwysig yw parciau
i ddinasyddion Caerdydd ac mae’r newyddion ein bod wedi llwyddo i ennill statws
y Faner Werdd mewn deuddeg o’n parciau’n dangos ein hymrwymiad i wneud cymaint
â phosibl i'w cadw'n wych yn wyneb toriadau i gyllidebau’r awdurdod lleol.
“Rhaid tynnu sylw
at y cyfraniad y mae’r Grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr yn ei wneud at
barciau’r ddinas, ar y cyd â'n staff ymroddedig yn y Cyngor, a hoffwn ddiolch
iddynt am eu holl amser ac ymrwymiad.Dylent fod yn falch iawn o’u llwyddiant.
"Mae cymaint i ddwlu arno ynghylch parciau Caerdydd
ac rydw i wir yn annog pawb i fynd allan a gwneud y gorau ohonynt yr haf hwn.”
Daw’r cyhoeddiad hwn yn ystod yr Wythnos Caru Parciau
(12-21 Gorffennaf) flynyddol sy’n cael ei threfnu am y 13eg flwyddyn gan Cadwch
Brydain yn Daclus, pan ddaw pobl ledled y wlad ynghyd i ddathlu parciau a
dangos i’r byd bod parciau’n bwysig iddynt.
Mae 221 o barciau a mannau gwyrdd wedi
bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i ennill y Wobr Baner Werdd a’r Wobr
Cymuned Baner Werdd.
Caiff y rhaglen ddyfarnu ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen
amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae’n cael ei dyfarnu gan arbenigwyr ar fannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu
hamser i ymweld â safleoedd sydd wedi gwneud cais gan eu hasesu yn erbyn wyth o
feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a
chynnwys y gymuned.