Back
2000 wrth eu bodd ym ‘Marchnad Nos’ gyntaf Marchnad Caerdydd
Agorodd Marchnad Caerdydd ar gyfer ei ‘Marchnad Nos’ gyntaf wythnos diwethaf.  Mewn cwta dair awr, denwyd dros 2000 o bobl i’r farchnad, ac mae masnachwyr eisoes yn bwriadu cynnal digwyddiadau tebyg eto.

Yn ogystal â chyfle i siopa yn stondinau rhai o fasnachwyr mwyaf eiconig Caerdydd, cafwyd hefyd adloniant gan artistiaid, cerddorion a DJs lleol.

Trodd Tantrum Records y Gornel Geltaidd yn 'Gornel y Bysgwyr', gyda pherfformiadau gan Jonny NoCash a Cosmo. Roedd y DJ Carly Santana o Kellys Records wrthi lan ar y balconi. A chafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau portreadau o rai o gymeriadau'r farchnad mewn arddangosfa o waith Eleri Hâf Davies dan y to gwydr ysblennydd.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng Russell Goodway:“Yn ogystal â bod yn gartref i fusnesau lleol bach, mae gan y Farchnad botensial i fod yn gyrchfan unigryw i ymwelwyr, yn cyfuno popeth sy’n dda am y brifddinas gyfoes y mae Caerdydd wedi tyfu i fod, a threftadaeth Fictoraidd hynod y farchnad.

“Mae pobl yn dweud y gallwch ddysgu llawer am ddinas o'i marchnad, a gyda llwyddiant y digwyddiad newydd hwn, mae'n amlwg bod Caerdydd ar agor ar gyfer busnes, yn fywiog ac yn edrych tua'r dyfodol."

Roedd y digwyddiad, oedd â’r nod o ddenu cynulleidfa newydd i’r farchnad, yn llwyddiant mawr yn ôl masnachwyr, gyda’r stondinau bwyd yn gwerthu eu cynnyrch i gyd, a’r busnesau eraill hefyd yn dweud eu bod wedi gwerthu llawer mwy na'r disgwyl.

Dywedodd Allan Parkins o Kellys Records:  “Gynted ag yr agorodd y drysau am 6pm, roedd y Farchnad yn fwrlwm byw. Roedd yn anhygoel bod yn rhan o Farchnad Nos, ond yr ymwelwyr a’i gwnaeth yn noson i’w chofio.”

Dywedodd Jeremy Phillips o Ffwrnes Pizza:“Roedd y farchnad nos yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i ddangos i gwsmeriaid newydd, a rhai'r presennol, mor wych y mae ein marchnad a'i masnachwyr.  Gobeithio y bydd llawer o nosweithiau nos eraill yn y dyfodol.”