Back
Gwau’r gymuned ynghyd


Mae disgyblion o ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi bod yn cyfnewid yr ystafell ddosbarth am wersi cwbl wahanol yn ddiweddar mewn project pontio'r cenedlaethau sy'n dod â'r gymuned ynghyd.

 

Gan roi eu llyfrau ymarferion a'u pensiliau o'r neilltu am awr bob bore Llun ers y 10 wythnos ddiwethaf, mae chwe disgybl o Ysgol Gynradd Bryn Deri yn Radur wedi gwau eu ffyrdd i Lyfrgell Radur am y grŵp Gwau a Sgwrs rheolaidd yno, lle maen nhw'n ymuno â'r gwragedd lleol am ychydig o ‘knit one, purl one', er mwyn magu sgiliau newydd a dysgu oddi wrth ei gilydd.

 

Mae sŵn chwerthin a sgwrsio gan leisiau hen ac ifanc yn atseinio o amgylch y llyfrgell wrth i'r plant a'r gwragedd weithio ar eu darnau gwlanog diweddaraf a nawr, wrth i ddiwedd y flwyddyn ysgol nesáu, mae'r project yn cael ei ddisgrifio fel llwyddiant a gall grŵp newydd o ddisgyblion edrych ymlaen at ymuno â'r grŵp ym mis Medi.

 

Meddai Claire Davies, Pennaeth Bryn Deri, "Mi wnaeth Llyfrgell Radur gysylltu â ni i ofyn i ni gymryd rhan yn y project pontio cenedlaethau hwn a oedd yn swnio'n wych i ni.  Mae'r plant yn dysgu sgiliau cymdeithasol da ac yn cael peth amser a rhyddid i gymryd rhan mewn rhywbeth sy'n gallu bod yn therapiwtig ac sy'n hybu lles cadarnhaol.

 

"Mae'r gwragedd yma'n cael rhywbeth yn ôl hefyd trwy gael y cyfle i drafod pethau â phobl ifanc a dysgu pethau oddi wrthynt. Maen nhw wedi siarad am eu bywydau presennol ac yn y gorffennol, yn ogystal â'r sgiliau y mae eu hangen i wau a chrosio - maen nhw'n trosglwyddo peth o'u harbenigedd. Nod y peth yw rhannu gan fod pob un ohonom yn rhan o'r un gymuned."

 

Dywedodd Diane Page, aelod o grŵp Gwau a Sgwrs, "Mae'r plant yn ein diddanu'n fawr. Mae'n hyfryd clywed y pethau maen nhw wedi bod yn eu gwneud ac rwy'n credu ein bod wedi elwa cymaint â nhw. Rydyn ni'n dysgu oddi wrthyn nhw sy'n hyfryd."

Mae'r project yn enghraifft dda o'r gwaith cynhwysiant cymunedol sy'n cael ei wneud gan hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas er budd iechyd a lles cymunedau trwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac felly mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

 

Yn ogystal â'r rhwydwaith llwyddiannus o hybiau cymunedol sy'n gweithredu fel siopau dan yr unto i wasanaethau'r Cyngor, partneriaid a chymunedau ar draws y ddinas, mae'r Cyngor yn datblygu hybiau lles i wasanaethu cymunedau yn rhan ogleddol y ddinas.Mae'r hybiau lles yn cael eu datblygu gyda phwyslais ar boblogaeth gynyddol hŷn yn yr ardaloedd hyn ac angen i ganolbwyntio ar les cymdeithasol, ffyrdd iach a heini o fyw, cynnwys y gymuned a byw'n annibynnol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, "Mae ein hybiau cymunedol a lles a'n llyfrgelloedd yn ganolfannau pwysig ar gyfer yr ardaloedd lle maen nhw. Nid llyfrgelloedd yn unig ydyn nhw, na dim ond rhywle i fynd i gael help gyda gwasanaethau'r Cyngor, ond maen nhw hefyd yn lleoedd cymunedol gwerthfawr lle gall pobl yn dod ynghyd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a fydd o fudd i'w lles nhw.

 

"Mae'n braf clywed am lwyddiant cynllun Llyfrgell Radur gydag Ysgol Gynradd Bryn Deri a'r grŵp Gwau a Sgwrs, a bod aelodau'r grŵp, beth bynnag yw eu hoedran, yn helpu ei gilydd ac yn datblygu ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol ar yr un pryd."

 

Mae'r project Gwau a Sgwrs yn cefnogi gwaith y Cyngor i ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant Unicef a'i bum nod clir o ran hawliau plant:

  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.
  • Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.
  • Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu magu mewn cartref diogel a chefnogol.
  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc gyfle i dderbyn addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.
  • Mae gan blant iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw'n gwybod sut i gadw'n iach.

 

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn eich hyb neu eich llyfrgell leol, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/llyfrgelloedd