Back
O’r gwaelod isaf i drawsnewid bywyd

 

Mae dyn ifanc a oedd yn cysgu ar strydoedd Caerdydd gynt ac sydd bellach wedi dechrau hyfforddi fel barista mewn siop goffi yn y ddinas wedi siarad am sut cyrhaeddodd isafbwynt ei fywyd cyn achub ar y cyfle i'w ailadeiladu gyda chymorth gwasanaethau digartrefedd Cyngor Caerdydd.

 

Am flynyddoedd, roedd Craig Gillatt, yn enedigol o Gaerdydd, yn cael ei ddal mewn cylch digartrefedd wrth i gyfnodau o gysgu ar y stryd a dedfrydau carchar byr yn ei atal rhag cysylltu mewn modd ystyrlon â'r gwasanaethau cymorth a oedd ar gael yn y ddinas.

 

Ond erbyn heddiw, mae Craig yn un o lu o bobl sy'n manteisio ar weithgareddau dargyfeiriol ‘Croeso Cynnes' a drefnir gan Dîm Allgymorth y ddinas i helpu pobl sy'n ddigartref i drawsnewid eu bywydau.

 

Fel rhan o'r gweithgareddau dechreuodd Craig fynychu boreau coffi'n ddiweddar yn Siop Goffi Little Man ar Tudor Lane, ac yntau'n benderfynol o beidio â dychwelyd i gysgu ar y stryd, mae  bellach yn gweithio i gynyddu ei lefel o annibyniaeth trwy wirfoddoli yn y boreau coffi er mwyn cael profiad gwaith fel barista a magu ei hyder ar gyfer y dyfodol.

 

Meddai Craig, sy'n 26 oed,"Roeddwn yn byw ar y strydoedd eleni, ond fe wnes i weithio gyda thîm allgymorth y Cyngor i ddod dan do.Stopiais gymryd cyffuriau ac mae fflat gyda fi erbyn hyn a dwi'n gwneud yn dda iawn.Dwi'n gwirfoddoli ddwywaith yr wythnos - dwi'n helpu i wneud coffis a hyd yn oed yn golchi'r llestri.Mae pethau'n well erbyn hyn.Fe wnes i gyrraedd y gwaelod isaf ond dwi'n dringo'n araf nôl lan yr ysgol nawr.

 

"Dwi wedi bod yn argymell pobl sy'n mynd trwy'r un pethau es i drwyddynt i wneud yr hyn dwi wedi'i wneud.Os galla' i wneud e, gall unrhyw un wneud e.Fy nod yn y pen draw yw bod yn weithiwr cymorth i helpu pobl sy'n ddigartref."

 

Mae Laura Bradford, rheolwr Siop Goffi Little Man, yn disgrifio Craig fel ‘ased arbennig'.

 

Meddai,"Dechreuon ni weithio gyda'r Cyngor i gynnal sesiynau alw heibio yn ein siopau ar Bridge Street a Tudor Lane lle gall pobl sy'n ddigartref neu mewn llety ansicr ddod i gael coffi a chwrdd â phobl i gael sgyrsiau buddiol.Mae'n beth da i fod yn rhan ohono.

 

"Roedd Craig yn awyddus i gael peth profiad gwaith ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn.Mae'n wrthi'n syth yn gwneud pob math o bethau.Rydyn ni wrth ein boddau ei fod yn gweithio gyda ni fel y gallwn ni ddangos ychydig o bethau iddo - mae'n ased go iawn i'r tîm."

 

Yn ystod ei gyfnod mwyaf diweddar ar y strydoedd a barodd saith mis, penderfynodd Craig o'r diwedd i dderbyn y cymorth a'r llety a oedd yn cael eu cynnig iddo gan dîm allgymorth y Cyngor. Ym mis Mawrth symudodd i'r Project Cysgu ar y Stryd a roddodd fflat hunangynhwysol iddo ac yna, dri mis yn ddiweddarach, symudodd i gartref mwy parhaol, gan fanteisio'r holl amser ar wasanaethau cymorth y Cyngor a oedd yn ceisio ei helpu i ailsefydlu ei fywyd.

 

Fel rhan o daith Craig, mae wedi bod yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaeth newydd y ddinas, sy'n rhan o wasanaethau allgymorth y Cyngor, sy'n targedu unigolion sydd wedi'u dal mewn cylch digartrefedd ac yn ceisio datrys y problemau sylfaenol sy'n arwain at ganlyniadau negyddol, megis cael eu troi allan o lety, gadael lleoliadau neu ddychwelyd i'r carchar.

 

Mae'r tîm newydd yn cynnwys gweithiwr camddefnyddio sylweddau, gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl, nyrs ddigartrefedd ychwanegol, cwnselwr, cymheiriaid mentora, gweithiwr allgymorth therapiwtig, eiriolwr a swyddog gweithgareddau dargyfeiriol.

 

Ers ei sefydlu'n gynharach eleni, mae ymyriadau gan y tîm wedi cael effaith sylweddol ar lwyddiant lleoliadau llety â chymorth, gyda 78% o atgyfeiriadau at y tîm yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, megis atal cael eu troi allan.Dengys y ffigurau ar gyfer 2018/19 yr arweiniodd 50% o bob lleoliad y flwyddyn honno at ganlyniad negyddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau,"Mae'n arbennig o wych clywed am stori Craig a sut mae'n gweithio'n galed i drawsnewid ei fywyd.

 

"Mae helpu pobl sy'n ddigartref yn ymwneud â llawer mwy na darparu lle i aros.Rydym yn gweithio'n galed iawn i helpu pobl i adael y strydoedd ac i fynd i'r afael â'r rhesymau dros eu digartrefedd yn y lle cyntaf fel y byddant yn cael eu cynorthwyo, ar ôl cysylltu â'r gwasanaethau, i roi'r gorau i gysgu ar y stryd am byth.

 

"Mae ein tîm amlddisgyblaeth yn cael effaith gadarnhaol iawn trwy ddarparu dull pwrpasol a chyfannol at anghenion cymorth pobl sydd yn aml yn gymhleth iawn.Mae gweithgareddau dargyfeiriol hefyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda thua 15 i 20 o bobl yn galw heibio bob dydd ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r busnesau a'r sefydliadau yn y ddinas sy'n ein helpu i ddarparu'r gweithgareddau hyn."

 

Ar chwe diwrnod yr wythnos mewn sawl lleoliad, mae'r Tîm Allgymorth yn trefnu boreau coffi, therapi celf, gweithdai cerddoriaeth, projectau garddio a mwy sy'n rhoi lle diogel i bobl ddigartref ddod ynghyd, cymdeithasu a chwrdd ag aelodau'r tîm amlddisgyblaeth i drafod eu hanghenion cymorth mewn lleoliad anffurfiol.