Back
Cymorth i bobl sy'n ddigartref yng Nghaerdydd
  • Mae tîm amlddisgyblaeth ar gael i helpu unigolion i fynd i'r afael â'u problemau.
  • Mae'r tîm hwn yn cynnwys gweithiwr cyffuriau ac alcohol, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr therapiwtig a chwnselydd, mentoriaid sy'n gyfoedion a mynediad at wasanaethau a drefnir yn gyflym.

 

  • Mae'r cyngor yn helpu llawer o bobl a allai ddod yn ddigartref ac mae ystod o ddarpariaeth ar gael o lety statudol dros dro i bobl y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd iddynt i lety arall â chymorth y ceir mynediad ato trwy'r Porth Person Unigol a'r Porth Pobl Ifanc. 

 

  •  Yn gyffredinol rydym yn darparu 261 o leoedd hostel i bobl ddigartref sengl a 98 o welyau brys a 353 o unedau llety a gefnogir. Dros y gaeaf, mae gwelyau argyfwng ychwanegol.

 

  • Mae gennym hefyd dros 500 uned llety dros dro i deuluoedd gael byw tra deuir o hyd i ateb mwy parhaol.

 

  • Mae'r Cyngor yn ystyried ffyrdd arloesol o ddod â rhagor o dai fforddiadwy i'r ddinas. Mae cynwysyddion morio a ddefnyddir fel cartrefi dros dro i deuluoedd digartref wedi cyrraedd Stryd Bute yn ddiweddar a byddant yn barod yn hwyrach eleni ac yn cynnig 13 o gartrefi.Mae project cynhwysydd morio hefyd ar waith a ddaw ag wyth cartref teulu i hostel Green Farm yn Nhrelái.

 

  •  Yn ogystal â llety mwy dros dro ar gyfer teuluoedd digartref, y Cyngor yw un o'r cynghorau prin yn y wlad sy'n adeiladu tai cyngor newydd er mwyn dod â chartrefi fforddiadwy o safon dda i ateb galw cynyddol.Mae 1,000 tŷ cyngor newydd ar y gweill ar gyfer 2022 ac mae gennym darged o greu cyfanswm o 2,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd nesaf. Rydym yn codi'r cartrefi hyn trwy ein Cynllun Byw Caerdydd gyda Wates Residential, trwy brynu eiddo yn ôl oddi ar y farchnad leol a llunio pecyn o fargeinion gyda datblygwyr a'n rhaglen adeiladu ychwanegol ein hunain.

 

 

  •  Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas yn un o brif flaenoriaethau'r Cyngor ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i roi ein Strategaeth Cysgwyr ar y Stryd ar waith, gan gynnwys model ‘Tŷ yn Gyntaf' sy'n symud cysgwyr ar y stryd ynsyth o'r strydoedd i gartref.

 

  • Yn 2018/19, helpom 157 person i ddod oddi ar y stryd ac i lety.

 

  •  Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion i'w cefnogi i gael mynediad at wasanaethau ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a chyda'r nos i ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sy'n wynebu risg o gysgu ar y stryd. 

 

  • Yn ddiweddar cawsom arian gan Lywodraeth Cymru i allu estyn ein cynllun Tai yn Gyntaf yn y ddinas. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn rhoi'r gallu i'r Cyngor greu 10 gofod Tŷ yn Gyntaf, wedi ei anelu'n benodol at rai sy'n gadael y carchar gydag anghenion cymhleth i geisio dod allan o'r cylch digartrefedd a charchar.

 

  • Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartref megis Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich, Huggard a'r YMCA i gynnig llety hostel, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws nos.
  • Mae ystod eang o wasanaeth cyfannol ar gael bob dydd i unigolion gan gynnwys gwasanaethau alcohol, cyffuriau a meddygol, ynghyd â gwasanaethau llety 

 

  • Yn aml mae gan unigolion sy'n cysgu ar y stryd broblemau eithriadol gymhleth ac mewn rhai achosion maent yn penderfynu peidio â defnyddio ein llety ac yn lle hynny, byddant yn cysgu ar y stryd am lawer o flynyddoedd.Yn yr achosion hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd.