Back
Gwaith i adnewyddu Tŷ Parc y Rhath ar fin dechrau

 

 


Bydd rhaglen ailddatblygu i atgyweirio a gweddnewid Tŷ Parc y Rhath yn dechrau ar ddydd Llun 2 Medi 2019.

Wedi'i godi ym 1897 yng Ngardd Bleser Parc y Rhath, yr eiddo hanesyddol oedd preswylfa swyddogolUwch-arolygydd y Parc.Yn wir, arferai fod yn gartref i William Pettigrew a'i frawd iau Andrew Alexander Pettigrew, prif arddwr Ardalydd Bute.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae Tŷ Parc y Rhath yn arwyddocaol i bobl Caerdydd ac mae'n newyddion gwych y caiff ei adnewyddu.

"Bydd y project yn cynnwys gwaith gwella mewnol ac allanol i adfer yr adeilad hanesyddol, gwella hygyrchedd a'i wneud yn addas at y diben.Ar ôl ei gwblhau, bydd Tŷ Parc y Rhath yn gyfle busnes cyffrous tra'n ail-gysylltu'r eiddo â'r Ardd Bleser."

Mae'r eiddo mewn Ardal Gadwraeth ar Ninian Road, ig ael rhagor o wybodaeth ewch ihttp://www.cardiffparks.org.uk/roathpark/info/roathparkhouse.shtml

Dylai'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Ionawr 2020.