Back
Nabod eich Rhifau yn Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd


 

Caiff ymwelwyr â nifer o lyfrgelloedd a hybiau Caerdydd y cyfle i wneud mwy na chodi llyfr neu gael mynediad at wasanaethau arferol gyda phrofion pwysedd gwaed am ddim sydd ar gael yr wythnos nesaf.

Yn rhan o ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru, mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio gyda Blood Pressure UK, elusen fwyaf blaenllaw'r wlad sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl sydd â phwysau gwaed uchel, er mwyn annog pobl i gael gwybod eu rhifau pwysedd gwaed a chymryd y camau angenrheidiol i gyrraedd a chynnal pwysedd gwaed iach.

Nabod Eich Rhifau!Wythnos (9-15 Medi)yw digwyddiad profi ac wythnos ymwybyddiaeth pwysedd gwaed mwyaf y DU ac mae'n un o bedwar digwyddiad iechyd a lles sy'n rhan o ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru, sydd â'r nod o ddod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner i hybu lles y genedl.

Cefnogodd Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd yr Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ystod mis Mai a byddant hefyd yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Dyslecsia Cymdeithas Dyslecsia Prydain ym mis Hydref a Diwrnod Gwneud Rhywbeth Gwahanol ym mis Ionawr.

Yn ystod Wythnos Nabod Eich Rhifaubydd llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn cynnal ‘gorsafoedd pwysedd' a fydd yn cynnig profion pwysedd gwaed am ddim i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ac aelodau'r cyhoedd.Caiff y gorsafoedd eu cynnal gan staff hyfforddedig a fydd yn cymryd darlleniad pwysedd gwaed, ei gofnodi ar gerdyn post i bob unigolyn a rhoi llythyr atgyfeirio i feddyg teulu'r unigolyn os oes angen.

Yng Nghaerdydd, lleolir gorsafoedd pwysedd yn:

  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Penylan (Dydd Llun 9am -1pm)
  • Hyb y STAR (dydd Mawrth 2.30pm - 4pm; dydd Mercher 9am - 11am; dydd Iau 10am - 12pm; dydd Gwener 10am - 12pm)
  • Hyb Trelái a Chaerau (dydd Gwener 12.30pm)
  • Hyb Llaneirwg (dydd Llun 9.30am -11.30am ac 1.30pm - 3.30pm)
  • Hyb y Llyfrgell Ganolog (dydd Mercher 10am - 12pm, dydd Iau 1pm - 3pm)

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Mae pwyslais cryf ar yr agenda iechyd a lles mewn gwasanaethau a ddarperir gan Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd felly rydym yn hapus i gefnogi Wythnos Nabod eich Rhifau Pwysedd Gwaedy DU.

"Rydym yn annog pobl sy'n defnyddio ein hybiau a'n llyfrgelloedd sy'n cynnal gorsafoedd pwysedd yn ystod yr wythnos i achub y cyfle i gael profi a chofnodi eu pwysedd gwaed. Mae pwysedd gwaed uchel yn cynyddu'r risg o gael strôc neu drawiad ar y galon ac mae hefyd yn ffactor risg ar gyfer afiechyd yr arennau, dementia ac afiechydon eraill felly rydym yn gobeithio y bydd amlygu pwysigrwydd ‘nabod eich rhifau yn ysgogi pobl i gael profion rheolaidd a gwneud unrhyw newidiadau mae eu hangen i leihau eu risg o broblemau pwysedd gwaed."

Meddai Hemini Bharadia, Rheolwr Ymgyrch Wythnos NabodEich Rhifau!"Nid yw pwysedd gwaed uchel yn gwahaniaethu ar sail oedran neu ryw - mae pobl yn marw'n ddiangen oherwydd nad ydynt yn cymryd camau bach syml megis lleihau eu pwysedd gwaed.

"Wythnos Nabod Eich Rhifau! yw'r cyfle perffaith i chi fynd am brawf pwysedd gwaed am ddim a'ch rhoi chi eich hun mewn rheolaeth dros eich iechyd, felly mae'n bleser gennym fod Llyfrgelloedd Cymru wedi ymuno â'r ymgyrch trwy gynnal Gorsafoedd Pwysedd Gwaed lle gallwch gael mesur eich pwysedd gwaed.Byddant yn chwarae rôl enfawr wrth helpu i gynghori cwsmeriaid am bwysedd gwaed a chael profion.Felly, gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn eu cefnogi ac Wythnos Nabod EichRhifau! 2019 trwy fynd am brofion pwysedd gwaed mewn llyfrgell sy'n agos atynt."

 

I gael mwy o wybodaeth am Wythnos Nabod EichRhifau! ewch iwww.bloodpressureuk.org/kyn