Back
Agor Canolfan Ddydd y Tyllgoed

 


Mae'r gwaith o ailfodelu'r ddarpariaeth canolfan ddydd i bobl hŷn yn y ddinas wedi dod i ben, yn dilyn cwblhau'r gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Ddydd y Tyllgoed.

 

Y Tyllgoed yw'r olaf o dair canolfan yn y ddinas i gael ei hadnewyddu fel rhan o fuddsoddiad a gweledigaeth y Cyngor i gynnig gwasanaethau a chyfleusterau sy'n bodloni uchelgais a gofynion pobl hŷn gydag anghenion gofal cymdeithasol.

 

Dechreuodd y buddsoddiad yn gynnar yn 2019 pan ddechreuodd y gwaith o uwchraddio Canolfan DdyddMinehead Road yn Llanrhymni.Agorwyd canolfan ddemensia arbenigol newydd, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Grand Avenue, y llynedd ac mae'r gwaith o ailddylunio ac adnewyddu Canolfan Ddydd y Tyllgoed yn cwblhau'r rhaglen.

 

Ariannwyd y gwaith gan Gyngor Caerdydd, gyda grantiau gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r ganolfan newydd yn cynnig amgylchedd sy'n dda i bobl gyda demensia a chyfleusterau newydd sy'n briodol ar gyfer diwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth dwys.Mae Gwasanaeth Pryd ar Glud y Cyngor, sy'n cludo prydau poeth, maethlon i gwsmeriaid ledled Caerdydd a rhannau o Fro Morgannwg, hefyd yn rhan o'r ganolfan ddydd hon a agorwyd yn swyddogol  gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AM.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae canolfannau dydd yng Nghaerdydd wedi cael eu gweddnewid yn llwyr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydym yn falch iawn o'r cyfleusterau o'r radd flaenaf a'r gwasanaethau a gynigiant i bobl hŷn yn y ddinas.

 

"Mae pob un o'n tair canolfan ddydd wedi cael eu hadnewyddu i ddarparu gwasanaethau dydd o safon uwch, mwy hyblyg mewn amgylchedd cefnogol a hwylus lle gall rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y ddinas deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall."