Back
Swyddi di-ri yn Ffair Swyddi Caerdydd 2019


 

Bydd gan gyflogwyr blaenllaw o'r sectorau manwerthu, lletygarwch, gofal a gwasanaeth gannoedd o gyfleoedd swyddi ar gynnig yn Ffair Swyddi Caerdydd 2019 yr wythnos nesaf.

 

Bydd tîm Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor, mewn partneriaeth gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal y digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Mercher 18 Medi (10am-2pm).

 

Bydd dros bedwar deg o gyflogwyr yn cynnig gwybodaeth a chyngor ynghylch swyddi sydd ar gael ar hyd a lled y ddinas. Bydd cymorth ar gael hefyd ar gyfer pobl sydd am newid gyrfa a phobl sydd heb waith ar hyn o bryd ac yn chwilio am swydd.

 

Bydd Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor yn rhoi cyngor ar gyflogaeth, a dros 20 o sefydliadau partner yn cynnig cyfleoedd hyfforddi.

 

Mae gan y tîm nifer o brojectau sy'n darparu cymorth mentora un wrth un wedi ei deilwra at anghenion unigolion 16 oed a hŷn yng Nghaerdydd. Mae'r cymorth sydd ar gynnig yn cynnwys help gyda gofal plant, helpu gyda chostau hyfforddi a theithio a chyngor penodol i helpu pobl i gael swydd.

 

Bydd Caerdydd ar Waith, tîm recriwtio dros dro'r Cyngor, hefyd yn y Ffair yn cynnig lleoliadau dros dro yng Nghyngor Caerdydd mewn nifer o wasanaethau. Bydd tîm maethu'r Cyngor hefyd yn cynnig cyngor ar bopeth yn ymwneud â maethu plant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae Ffair Swyddi Caerdydd yn ddigwyddiad gwych sy'n rhoi cyngor a chymorth gwbl angenrheidiol i gannoedd o bobl. Boed yn chwilio am eich swydd gyntaf, neu'n awyddus symud yn eich blaen yn eich gyrfa, neu'n chwilio am gyfleoedd hyfforddi, bydd arbenigwyr yno i'ch helpu.

 

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith eto i gyflwyno'r Ffair Swyddi a helpu pobl gyda'u cyflogaeth."

 

I ddysgu mwy am wasanaethau I Mewn i Waith Cyngor Caerdydd ewch i www.imewniwaithcaerdydd.co.uk