Back
Mae nofio am ddim yn newid yng Nghaerdydd
Yn sgil adolygiad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar y fenter Nofio am Ddim, mae newidiadau’n cael eu cyflwyno i ddarpariaeth nofio am ddim ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd.

Ar sail tystiolaeth o’r adolygiad, mae canllawiau newydd, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar nofio am ddim i rai dan 16 oed a dros 60 oed mewn ardaloedd o amddifadedd, wedi eu creu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, ynghyd â gostyngiad sylweddol o 50% yn eu cyllid ar gyfer y cynllun.

Er mwyn bodloni’r meini prawf newydd hyn, bydd newidiadau i ddarpariaeth nofio am ddim canolfannau hamdden Better Caerdydd, a weithredir gan GLL, yn digwydd o 1 Hydref 2019.

Mae GLL wedi creu rhaglen fydd yn sicrhau y bydd rhai sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed yn parhau i gael eu cynnig ymhob un o byllau nofio saith canolfan Better Caerdydd yn ystod y tymor, a bydd cynnydd sylweddol yn y cyfleoedd fydd gan bobl ifanc i gael sesiynau nofio a dysgu nofio am ddim.

Mae manylion y rhaglen newydd ar gael yn https://www.better.org.uk/leisure-centre/cardiff neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â’ch canolfan hamdden leol.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau cenedlaethol i’r Fenter Nofio am Ddim yma: http://sport.wales/media/1975893/180704_free_swimming_report_final_eng_clean.docx