Back
Trysor i'w arddangos yn Amgueddfa Caerdydd y flwyddyn nesaf
Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Amgueddfa Caerdydd yn arddangos darn o ‘drysor' arian o'r 17eg ganrif a ganfuwyd gan ddatguddiwr metel.

Mae'r gwniadur arian a ddarganfuwyd ym Mhentyrch ym mis Ionawr 2017, ag arysgrif ‘I AM YOUVRS' (Rwy'n perthyn i ti), sy'n dangos mai anrheg i rywun annwyl oedd ef.

Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers: "Bu gwniaduron o'r fath yn boblogaidd gyda'r boneddigion yn ystod y 17eg ganrif a byddent wedi bod yn gyffredin bryd hynny.

"Prin iawn y dowch o hyd iddyn nhw y dyddiau hyn - yn ystod y rhyfel cartref, bu menywod oedd yn cefnogi ochr y Senedd yn eu rhoi i'r achos yn aml a byddent yn cael eu toddi i ddefnyddio'r arian at ddibenion eraill."

Datganwyd bod y gwniadur sydd wedi colli ei ben cromennog yn ‘drysor' gan y Dirprwy Grwner ar gyfer Canolbarth De Cymru, Ms Rachel Knight yn gynharach yr wythnos hon a bydd yn cael ei brisio gan yr Amgueddfa Brydeinig cyn cael ei roddi i Amgueddfa Caerdydd i'w arddangos yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae Amgueddfa Caerdydd yn cyflwyno hanes pobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae yng Nghaerdydd dros y canrifoedd a bydd y gwniadur hwn yn helpu i roi goleuni newydd ar yr hyn a arferai ddigwydd yn y 17eg ganrif.

"Mae'n ddarn pwysig iawn i'r amgueddfa - dyma fydd gwrthrych trysor cyntaf yr amgueddfa ond hefyd bydd ymhlith ychydig eitemau'r amgueddfa sy'n dyddio cyn oes Fictoria, gan ei wneud yn gyfle arbennig i ehangu'r stori mae'r amgueddfa yn ei dweud am Gaerdydd."

Dywedodd Dr Rhianydd Biebrach, sef Swyddog Project ‘Achub Trysorau; Adrodd Straeon' a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol; ac a helpodd yr amgueddfa i gael y gwniadur hwn: "Mae project Achub Trysorau; Adrodd Straeon yn ddiolchgar i'r person a ddaeth o hyd i'r gwrthrych trysor hwn am fod yn unigolyn cyfrifol ac adrodd am ei ddarganfyddiad a all fynd nawr yn yr arddangosfa leol, yn y gymuned lle y darganfuwyd.

"Rydym yn annog pob datguddiwr metel i gofnodi ei ddarganfyddiadau gyda Chynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff y wybodaeth a ddarperir gan y gwrthrychau hyn ei cholli."

Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Amgueddfa Caerdydd â'r gallu nawr i baru pob rhodd a wneir £1 am £1. I gefnogi'r amgueddfa ewch i:https://cardiffmuseum.com/cy/986-2/