Back
Ydych chi’n cofio pan...?

 

Cyhoeddwyd enillwyr cystadleuaeth ysgrifennu stori i blant ysgol mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd fel rhan o ddathliadau blynyddol Wythnos y Llyfrgelloedd.

 

Cymrodd blant ar hyd a lled Cymru ran yn y gystadleuaeth a lansiwyd gan Lyfrgelloedd Cymru ar y cyd â'r Gymdeithas Alzheimer yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia ym mis Mai i ysgrifennu stori fer ar y thema atgofion, yn ddim hirach na 480 o eiriau - sef nifer y bobl sy'n cael diagnosis o dementia pob dydd yn y DU.

 

Yr enillydd oedd Ava Gillespie, 8 oed o Gaerdydd, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant am ei stori ‘The Unforgettable Trip' - stori am drip i Ynys y Barri gyda Pip, ei Nain,  sy'n byw gyda dementia.

 

Enillodd Ava daleb werth £50 a bydd ei hysgol yn cael 480 o lyfrau newydd i'w llyfrgell. 

 

Yr un a ddaeth yn ail oedd James Miles, 10 oed, o Ysgol Gynradd y Bont Faen ym Mro Morgannwg am ei stori ‘Buckets and Spaces' a Lilly Pattinson o Ysgol John Bright yng Nghonwy gyda'i stori wedi ei seilio ar atgofion dyn oedrannus oedd yn gydradd ail.

 

Aeth y tri awdur ifanc i seremoni wobrwyo arbennig yn Sain Ffagan lle cawsant gyfle i ddarllen eu straeon i gynulleidfa oedd yn cynnwys y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a disgyblion Ysgol Gynradd Joseff Sant.

 

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\October 2019\Welsh libraries story comp event\191010LibraryEvent085_NTreharne - Copy.jpg

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore:"Rydym wedi cael ein synnu gan safon straeon plant o bob cwr o Gymru yn y gystadleuaeth hon; roedd yn bleser clywed Ava, James a Lilly yn darllen eu straeon i ni.

 

"Gyda thua 480 o bobl yn derbyn diagnosis dementia bob dydd yn y DU, mae'n bwysig ein bod i gyd yn deall mwy am ddementia ac yn gwneud beth bynnag y gallwn ni i gefnogi pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, a'u teuluoedd.Yn aml, mae'r teuluoedd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc ac wrth gwrs, gall fod yn anodd i bobl ifanc ddeall sut mae dementia yn effeithio ar gof eu perthynas neu'n newid eu hymddygiad.

 

"Rwy'n credu bod y straeon a glywon ni heddiw yn dangos dealltwriaeth aeddfed iawn, gyda ffocws positif ar y ffaith bod llawer o bobl sydd yn byw gyda dementia yn byw bywyd da ac yn gallu parhau i fwynhau amser o ansawdd gyda'u teuluoedd, yn union fel rhai o'r atgofion gwerthfawr y mae'r plant wedi bod yn ysgrifennu amdanynt.

 

"Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran yn y gystadleuaeth a llongyfarchiadau arbennig i Ava, James a Lilly."

 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Llongyfarchiadau i'r enillwyr a da iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth arbennig hon. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyhoeddi'r enillwyr yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd. Rwy'n gwybod bod llyfrgelloedd yn chwarae rôl fawr o ran cynnig cymorth a chyngor gydag iechyd a llesiant. Mae llyfrgelloedd yn fannau delfrydol yng nghanol y gymuned er mwyn rhoi help i bobl yn dioddef gan ddementia a'u gofalwyr. Rwy'n siŵr bod pawb wedi dysgu llawer am ddementia yn sgil y gystadleuaeth ac rwy'n annog chi i barhau i ysgrifennu straeon ac i rannu eich atgofion."

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru Cymdeithas Alzheimer, Sue Phelps:"Mae Cymdeithas Alzheimer yn falch o fod wedi bod yn rhan o'r gystadleuaeth ysgrifennu stori hon a chael cipolwg ar farn a phrofiadau ein pobl ifanc yng Nghymru - mae'n bwysig dros ben ein bod yn ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf ac yn eu hannog i siarad am ddemensia fel y gallwn barhau i chwalu'r mythau, ofn a stigma sy'n parhau o hyd.