Back
Amgueddfa Caerdydd, a greodd “argraff eithriadol”, yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol
Mae Amgueddfa Caerdydd wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol yn y Gwobrau ‘Amgueddfeydd yn Newid Bywydau’ a gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghynhadledd y Gymdeithas Amgueddfeydd yn Brighton. 

Cafodd rhaglen ddemensia’r amgueddfa, a enwebwyd ar gyfer y wobr Amgueddfa Fach Orau, ei disgrifio gan Drefnydd y Gynhadledd, Subhadra Das, fel “eithriadol” a gan y beirniad Rachel Cockett fel “lle agored sy’n rhoi’r gymuned yn gyntaf.”

Cafodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers, hefyd ei chydnabod yn y seremoni, gan ennill y wobr ‘Gweithredwr Newid Radical’, gyda’r beirniaid yn ei chanmol am “roi effaith gymdeithasol wrth wraidd popeth a wna” a’r camau y mae wedi’u cymryd i wneud yr amgueddfa’n wasanaeth sy’n addas i bobl â demensia, newid proffil ymwelwyr yr amgueddfa drwy annog cynulleidfaoedd mwy amrywiol a’r gwaith y mae wedi’i wneud gyda phobl yn yr ardal leol i edrych ar agweddau heriol ar hanes y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: “Dyma gydnabyddiaeth genedlaethol arbennig i’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn Amgueddfa Caerdydd i gofnodi straeon ein dinas a’u rhannu gyda’n cymunedau amrywiol.

“Mae’r tîm yn frwd iawn dros eu gwaith a, thrwy’r wobr hon, a gyda 100% o ymwelwyr yn dweud y byddent yn argymell yr amgueddfa, mae’r brwdfrydedd hwn yn amlwg yn talu ar ei ganfed.”

Yn siarad ar ôl y gwobrau, dywedodd Victoria Rogers: “Dwi wrth fy modd gyda’r ganmoliaeth y mae ein Hamgueddfa wedi’i chael yn y gwobrau.

“Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog a rhyfeddol, a dwi’n hoffi meddwl bod y gydnabyddiaeth rydym wedi’i chael gyda’r gwobrau hyn yn golygu ein bod yn llwyddo i wneud yr hanes hwnnw yn hygyrch i gymuned gyfan Caerdydd - a dwi’n gwybod bod pawb yn yr Amgueddfa yn edrych ‘mlaen i adeiladu ar y gwaith hwnnw yn y dyfodol.”

Lansiodd yr amgueddfa ymgyrch yn gynharach eleni i godi £500,000 gyda’r nod o greu etifeddiaeth a fydd yn ei galluogi i fynd â’i chasgliad o gwmpas y ddinas, i mewn i galon cymunedau.

Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Amgueddfa Caerdydd nawr yn gallu paru’r holl roddion a wneir - £1 am £1. I gefnogi’r amgueddfa ewch i: https://cardiffmuseum.com/cy/986-2/