Back
Ymgyrch eco-dwristiaeth yn ennill Gwobr CIPR
Mae ymgyrch eco-dwristiaeth gan Gyngor Caerdydd sy'n mynd i'r afael â'r problem o blastig yn y môr ac effaith twristiaeth a digwyddiadau ar yr amgylchedd wedi ennill Gwobr Balchder CIPR.

Defnyddiodd yr ymgyrch, a gynhaliwyd gan Croeso Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd, ddigwyddiadau a rhwydweithiau sefydledig y tîm fel llwyfannau ar gyfer ymgysylltu â busnesau hamdden a thwristiaeth ac ymwelwyr, gan helpu i'w hysbrydoli i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tîm yn Awdurdod Harbwr Caerdydd yn casglu tua 500 tunnell o sbwriel - y mae llawer ohono'n blastig - o Fae Caerdydd bob blwyddyn, felly mae lleihau gwastraff plastig yn fater sy'n agos i'n calon ni, fel y cyhoedd.

"Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych i'r gwaith ry'n ni wedi bod yn ei wneud i rannu ein profiadau gyda'r sector a helpu i wneud twristiaeth a digwyddiadau yng Nghaerdydd yn fwy cynaliadwy."

Un o uchafbwyntiau'r ymgyrch oedd y Lolfa Eco - a grëwyd ar gyfer safle Ras Fôr Volvo i dynnu sylw at yr amrywiaeth o sbwriel a phlastig sydd ym Mae Caerdydd - a oedd yn cynnwys dodrefn wedi'u huwchgylchu a wnaed â gweddillion a sbwriel a gasglwyd gan Griw Cwch yr Awdurdod Harbwr ym Mae Caerdydd - a'r cwbl wedi'u gwneud gan saer coed lleol.

Gwobrau Balchder CIPR yw'r gwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus arweiniol yn y rhanbarth, yn cydnabod arweinwyr yn y diwydiant yng Nghymru a'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud.