Back
‘Waliau byw’ newydd ar gyfer maes chwarae ysgol gynradd
Mae ‘waliau byw’ wedi eu gosod ym maes chwarae Ysgol Gynradd Tredegarville yng nghanol dinas Caerdydd, mewn ymgais i hybu bioamrywiaeth a gwella ansawdd aer tir yr ysgol.

Mae’r sgriniau eiddew a ariannwyd drwy grant gan Gronfa Cymunedau Tirlenwi, yn helpu i hidlo llygredd a mynd i’r afael ag allyriadau traffig. Mae sgriniau tebyg mewn dinasoedd eraill wedi arwain at gostyngiad 21.8% yng nghrynodiad dyddiol NO2 ar ochr maes chwarae’r sgriniau.

Gwnaed cais am y grant £15,000 gyda chymorth gan Dîm Ynni a Chynaliadwyedd y Cyngor, a darparwyd a gosodwyd y sgriniau, sydd hefyd yn helpu i hybu bioamrywiaeth, ac yn gwella amgylchedd y maes chwarae yn gyffredinol, gan PHS Greenleaf.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i wneud Caerdydd fel prifddinas Cymru yn gynaliadwy ynghyd â chynlluniau eraill i wella ansawdd aer yn y ddinas, seilwaith gwyrdd, fel y sgriniau newydd hyn, y gallant chwarae rôl bwysig i fynd i’r afael â llygredd.”

Dywedodd y Pennaeth Emma Laing: “Mae gennym ni faes chwarae concrit, mae llawer o’n plant nad oes mynediad i fannau gwyrdd iddynt na gardd ychwaith, felly mae darparu gwyrddni yn beth hynod gadarnhaol iddynt ac yn gyfle i siarad am dyfu, pryfed a bywyd gwyllt yn fwy cyffredinol.

“Mae llygredd aer yn bryder i fwyafrif y bobl sy’n byw mewn dinasoedd, a’r gobaith yw y bydd y sgriniau yn cael effaith wirioneddol ar lygredd o’r ffyrdd o amgylch yr ysgol - ond yn gadarnhaol iawn hefyd, byddant yn creu profiad real i’r plant, un fydd yn ein galluogi i’w helpu nhw i ddeall effaith llygredd aer.”

Caiff effaith y sgriniau ei monitro dros amser a bydd disgyblion yn plannu blodau ac yn cael sgyrsiau yn y dosbarth am beillwyr a bioamrywiaeth gyda PHS Greenleaf.

Dywedodd Lynne Williams, Rheolwyr Rhanbarthol y Gogledd gyda PHS Greenleaf: “Yma yn PHS Greenleaf rydym yn falch o fod yn rhan o greu man awyr agored gwyrddach yn Ysgol Gynradd Tredegarville. Rydym yn anelu at greu ansawdd aer well ar gyfer disgyblion mewn ysgolion gan gyflwyno hyd yn oed mwy o blannu yn yr awyr agored.”