Back
Heol Llanrisant / Heol Isaf 14.11.19

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd wedi siarad â'r contractwr i ofyn am grynodeb cynhwysfawr o'r gwaith sydd angen ei gwblhau ar y rhan o Heol Llantrisant rhwng cylchfan Heol Isaf a gorsaf betrol Westward Ho i osod seilwaith a chyfleustodau hanfodol. 

"Mae cyfarfodydd brys yn cael eu cynnal i drafod sut gall mesurau pellach gael eu rhoi ar waith ar y safle i leihau tagfeydd a lleihau'r effeithiau sylweddol y mae trigolion a chymudwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. 

"Mae'r contractwr yn cyflwyno goleuadau traffig ychwanegol, a reolir â llaw, yn ystod yr amseroedd prysuraf a fydd yn ymateb i lif y traffig. 

"Gallwn sicrhau y gwnawn bopeth o fewn ein gallu i leihau tarfu ac y caiff y gwaith ei wneud mor gyflym â phosib." 

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen waith a'r goleuadau newydd ar gael ar wefan Plasdŵr Redrow yma:https://plasdwr.co.uk/llantrisant-road