Back
Mae'r Gig Fawr yn dychwelyd gyda chyfleoedd gwych i gerddorion De Cymru
Daw'r gystadleuaeth talent gerddorol, y Gig Fawr yn ôl am nawfed flynedd gyda gwobrau mawr a chyfleoedd mawr i gerddorion yn ne Cymru.

Ymhlith gwobrau eleni mae lle yng Ngŵyl Sŵn 2020, amser recordio gyda'r cynhyrchydd amlwg Charlie Francis, sydd wedi gweithio gydag ystod o artistiaid o Future of the Left i Turin Brakes, Robyn Hitchcock, Wilco ac REM.

Daw'r gystadleuaeth, sy'n agored i artistiaid o unrhyw arddull gerddorol, i'w brig gyda dwy rownd gynderfynol, i'w cynnal ym mis Ionawr cyn y ffeinal mawr ar 15 Chwefror yng Nghlwb Ifor Bach, lle bydd artistiaid yn cael cyfle i arddangos eu cerddoriaeth yng nghalon sin gerddorol Caerdydd, o flaen panel o arbenigwyr y diwydiant.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae sector creadigol y ddinas eisoes yn cyflogi dros 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy nag £1 biliwn i'r economi leol.

"Gyda bwrdd cerddoriaeth cyntaf y ddinas yn barod i ddechrau datblygu cynlluniau i ymgorffori cerddoriaeth yn strwythur y ddinas, mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o ddiwylliant cerddoriaeth Caerdydd.

"Rydym yn awyddus i ymgorffori cerddoriaeth ym mhob agwedd ar y ddinas gan gynnwys cynllunio a thwristiaeth, ac yn y pen draw, diogelu a thyfu sector cerddoriaeth Caerdydd - mae rhan o hyn yn ymwneud â chefnogi artistiaid newydd ac mae'r Gig Fawr yn gyfle gwych i gerddorion ifanc ddangos eu doniau a gwneud argraff ar y diwydiant cerddorol."

Mae'r sawl a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gig Fawr o'r blaen wedi mynd ymlaen i chwarae yng Ngŵyl Sŵn a Glastonbury yn ogystal â bod yn rhan o raglen ddigwyddiadau Cyngor Caerdydd.

Nid yw beirniaid ar gyfer eleni wedi eu cadarnhau eto, ond yn flaenorol, roeddent yn cynnwysbeirniad cerdd y South Wales Echo David Owens, cyn reolwr Coldplay Estelle Wilkinson, a sefydlydd Gŵyl Sŵn John Rostron.

I gymryd rhan ac am fanylion llawn, ewch iwww.visitcardiff.com/biggig, cwblhewch ffurflen fynediad a'i hanfon ynghyd â dau recordiad MP3 o'ch cerddoriaeth i biggig@cardiff.gov.uk.

Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno o leiaf un gân wreiddiol. Cewch gyflwyno ceisiadau o 22 Tachwedd tan 16 Rhagfyr.

#DinasCerddoriaeth #yGigFawr