Wedi'i sefydlu yn 2014 ym Milbao, yng ngwlad y
Basg yn Sbaen, mae Dydd Sadwrn Teg yn rhwydwaith fyd-eang o 180 o ddinasoedd, o
Lima i Helsinki, sy'n ceisio ymateb yn gadarnhaol i brynwriaeth fyd-eang Dydd
Gwener Du gyda 1,200 o ddigwyddiadau cyhoeddus ar Dachwedd 30ain, y diwrnod ar
ôl Dydd Gwener Du.
Mae'r rhaglen ar gyfer Dydd Sadwrn Teg cyntaf
Caerdydd yn cynnwys popeth o'r cyfle i archwilio syniadau dylunio cynaliadwy yn
Hyb Grangetown, ymuno â pharti pen-blwydd yn Amgueddfa Caerdydd, edrych ar
gymuned grefftau Caerdydd yn Neuadd y Ddinas, mwynhau sesiwn Actifyddion
Artistig y tu mewn i Neuadd Dewi Sant (a Strafagansa Pres y tu allan) ac yna
parti yn y nos mewn rêf, dan ofal Arglwydd Faer Caerdydd, er budd yr elusennau
Cymorth i Fenywod yng Nghymru a BAWSO.
Bydd y rêf, a gaiff ei gynnal yn yr Hen
Lyfrgell ar yr Aes, yn cynnwys setiau DJ gan: un o hoelion wyth y sîn ddawns
yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o noson glwb Dirty Pop, sefydlydd noson
glwb Shangri-la, Nick Saunders; Sarah Sweeney a DJ Precious o gydweithrediad
Caerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â'r gadwyn aur, yr
Arglwydd Faer ei hun.
Dywedodd yr Arglwyd Faer, y Cyng. Dan De'Ath:
"Fe ddwedais pan ddois yn Arglwydd Faer fy mod am wneud pethau ychydig yn
wahanol, ac rwy'n credu mod i'n saff i ddweud mai dyma'r Maer cyntaf o Gaerdydd
sydd wedi cynnal rêf."
"Mae cerddoriaeth wastad wedi chwarae rhan
fawr o ‘mywyd i, felly mae gallu ei defnyddio fel ffordd o godi arian at y ddwy
elusen, sy'n gwneud gwaith pwysig dros ben i helpu menywod sy'n wynebu
amgylchiadau mor anodd a thrallodus, yn wych."
"Mae am fod yn barti go iawn - mae
Caerdydd yn ddinas mor greadigol a bydd llawer yn digwydd i nodi ymwneud cyntaf
y ddinas â mudiad Dydd Sadwrn Teg felly rwy'n gobeithio y gwelwn ni lwyth o
bobl yn dod mas, a mwynhau rhai o'r digwyddiadau ffantastig gan orffen y cyfan
gyda noson o ddawnsio dros achosion gwerth chweil."
Mae tocynnau ar gyfer Rêf yr Arglwydd Faer yn
costio £10 ymlaen llaw (rhoddir yr holl elw i ddwy elusen a ddewiswyd gan yr
Arglwydd Faer) ac maent ar gael o:https://shangri-la.eventcube.io/
Am raglen lawn o ddigwyddiadau Dydd Sadwrn Teg
yng Nghaerdydd, ewch i:https://app.fairsaturday.org/listaeventos2019/Cardiff