Back
Adeiladu tai cyngor newydd

18/12/19

 

Bydd cynlluniau i godi 31 o fflatiau newydd sbon mewn rhan o'r ddinas sydd ag anghenion tai dwys yn cael eu trafod yr wythnos hon.

 

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried mynd i gontract dêl pecyn gyda Willomead Holdings Ltd i ddatblygu fflatiau cyngor i'w rhentu, yn safle tafarn y Paddle Steamer gynt yn Sgwâr Loudon, Butetown.

 

Byddai'r datblygiad yn cyfrannu at darged y Cyngor i godi o leiaf 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn mis Mai 2022, gyda chynlluniau ar waith i adeiladu 2,000 o gartrefi cyngor newydd yn y tymor hirach i ateb y galw sy'n cynyddu am dai fforddiadwy.  Byddai'r fflatiau'n darparu eiddo rhent o ansawdd dda, sydd mawr eu hangen, mewn lleoliad cynaliadwy, yn agos i amwynderau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

Mewn dêl pecyn, y contractwr sy'n arwain o ran caffael, dylunio a chodi project. Byddai Cyngor Caerdydd wedyn yn talu am yr eiddo wedi iddo gael ei gwblhau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r pecyn a gynigir yn rhoi cyfle i ni adeiladu 31 o fflatiau newydd ar gyfer teuluoedd yn Butetown, ardal sydd wir angen rhagor o gartrefi fforddiadwy.

 

"Byddai'r project yn creu 31 o fflatiau dwy ystafell wely mewn lleoliad allweddol o fewn cymunedau sydd wedi hen sefydlu, a bydd yn ein helpu i gynnig 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022."

 

 

Bydd y cabinet yn ystyried argymhellion i'r Cyngor fynd i gontract dêl pecyn gyda Willowmead Holdings Ltd yn ei gyfarfod, ddydd Iau, 19 Rhagfyr.