Back
Gwella perfformiad ynni mewn cartrefi rhent


 18/12/19

Caiff cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartrefi rhent sy'n perfformio waethaf yng Nghymru eu hystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd wythnos yma.

 

Rhentu Doeth Cymru - y cynllun cofrestru a thrwyddedu cenedlaethol ar gyfer landlordiaid ac asiantau, a weinyddir gan Gyngor Caerdydd ar gyfer Cymru gyfan - yw'r awdurdod arweiniol mewn cydweithrediad gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwelliannau i gartrefi ledled y wlad nad ydynt yn bodloni'r safonau effeithlonrwydd angenrheidiol.

 

 

Mae cyfreithiau newydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2020 sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob eiddo rhent preifat fodloni lefel perfformiad ynni band E neu uwch, a gall awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi lle mae landlordiaid yn methu â chydymffurfio â'r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol (MEES).

 

Mae ymchwil yn dangos bod gan Gymru broblem tlodi tanwydd sylweddol, gyda 155,000 o gartrefi yn dlawd o ran tanwydd, tra bod 20% o'r holl gartrefi rhent preifat a 39% o gartref heb wres canolog hefyd yn dioddef o dlodi tanwydd.

 

Gan ddefnyddio data a gasglwyd gan Rhentu Doeth Cymru a gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni (TPYau), mae eiddo rhent preifat gradd F a G, sydd ar waelod y raddfa o ran perfformiad ynni, yn ogystal ag eiddo heb TPY, wedi'u nodi ledled y wlad.

 

 

 

 

Er mwyn paratoi a chefnogi landlordiaid cyn i'r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol gael eu gweithredu'n llawn, bydd gwaith yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o rwymedigaethau landlordiaid ac unrhyw gymorth sydd ar gael i landlordiaid a thenantiaid i alluogi gwelliannau.

 

Targedir cyngor a gwybodaeth at landlordiaid y mae data'n dangos bod ganddynt eiddo gradd F a G.

 

At hynny, mae Rhentu Doeth Cymru ar flaen y gad gyda chynnig Cymru Gyfan i'r Gronfa Cartrefi Cynnes a fyddai'n gosod 275 o systemau gwres canolog mewn ardaloedd awdurdod lleol ledled Cymru. Y prif ffocws fyddai mynd i'r afael ag eiddo rhent gradd E, F a G a byddai angen i landlordiaid gyfrannu at gost y gwaith yn ogystal â gosod deunydd inswleiddio mewn llofftydd a cheudodau os oes angen.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru i wella amodau mewn eiddo rhent preifat a safonau rheoli yn y sector ledled y wlad, felly rwy'n falch o weld y cynllun yn gyrru'r gwaith pwysig hwn yn ei flaen i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi rhent.

 

"Mae ffigurau'n dangos bod tlodi tanwydd yn parhau'n broblem go iawn i filoedd o gartrefi ledled Cymru, ac mae unrhyw beth sy'n helpu i wella'r sefyllfa hon yn newyddion da iawn.

 

"Bydd gosod gwres canolog mewn 275 o eiddo ledled Cymru, yn amodol ar gymeradwyo'r cais Cartrefi Cynnes, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r tenantiaid sy'n byw yn y cartrefi hynny. Mae Rhentu Doeth Cymru yn barod i gynghori a chefnogi landlordiaid sydd ag eiddo gradd F a G i wneud y gwelliannau angenrheidiol cyn i'r safonau ddod i rym flwyddyn nesa.

 

"Ar ôl hynny, gallai landlordiaid sydd ag eiddo nad yw'n cyrraedd y safonau hynny wynebu camau gorfodi, felly rydym yn awyddus i sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth newydd ac yn cymryd camau i wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi hyn cyn bod angen gwneud hynny."

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cael ei ddiweddaru ar rôl Rhentu Doeth Cymru yn sicrhau'r gwelliannau hyn yn ei gyfarfod ddydd Iau 19 Rhagfyr.