Back
Hybiau newydd ar y ffordd i Ogledd Caerdydd

20/12/19

 

Bydd gwaith i drawsnewid dau lyfrgell i mewn i hybiau lles yng ngogledd y ddinas yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen canolfannau cymunedol y Cyngor, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu hybiau lles yng ngogledd y ddinas, gan ganolbwyntio ar les cymdeithasol a ffyrdd llesol o fyw, ymgysylltu â'r gymuned a byw'n annibynnol.

 

Bydd Llyfrgell Rhydypennau a Llyfrgell yr Eglwys Newydd yn cau am 7pm ddydd Mawrth 7 Ionawr i alluogi'r gwaith a byddant yn ailagor fel hybiau cymunedol yn Haf 2020.

 

Mae cyllid wedi'i sicrhau gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Gofal Integredig i drawsnewid yr adeiladau. Bydd pob adeilad yn cael budd o estyniadau bach a gwaith adnewyddu mewnol i alluogi amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau.

 

Gwnaeth ymgynghoriad cymunedol ar ddechrau 2019 helpu i lywio dyluniad yr adeiladau a'r gwelliannau a gynllunnir i Lyfrgell yr Eglwys Newydd, gan gynnwys estyniad i wneud lle ar gyfer ystafell gymunedol, ailosod y fynedfa wreiddiol ac adnewyddu mewnol, gan gynnwys tai bach hygyrch.

 

Yn Rhydypennau, bydd estyniad yn cael ei adeiladu i greu ystafell gymunedol tra bydd hefyd fynedfa well, gwaith adnewyddu, llefydd parcio hygyrch a thirlunio.

 

Gyda staff cymwys wrth law i helpu cwsmeriaid, bydd yr hybiau newydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymunedol a lles i ategu'r gwasanaeth llyfrgell yn yr adeiladau. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau partner, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr i gyflwyno gweithgareddau a bydd digwyddiadau yn cael eu teilwra i anghenion y gymuned ac yn gwella'r ystod o wasanaethau sydd ar gael.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ffocws ein hybiau lles fydd ymgysylltu â'n poblogaeth hŷn sy'n tyfu a helpu i frwydro yn erbyn effaith unigedd ar les pobl drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ar sail eu hanghenion. Er bod ffocws ar bobl hŷn, bydd yr hybiau'n gwasanaethu'r gymuned gyfan."

 

Mae cynlluniau yn dod at ei gilydd i gynnig amrywiaeth o wasanaethau tra bod y safle ar gau, gan gynnwys casglu bagiau gwastraff, y gwasanaeth llyfrgell symudol a gweithgareddau cymunedol parhaus. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth a phosteri i'r gymuned, yn cael eu paratoi a chânt eu cyhoeddi'n fuan.