Back
Cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd newydd

21/1/2020

Bydd adroddiad sy'n argymell bwrw ymlaen â chynigion i sefydlu ysgol gynradd newydd i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd yn cael ei ystyried gan Gabinet yr awdurdod lleol pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 23 Ionawr 2020.

Bydd yr adroddiad hefyd yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a ddaeth i law fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus, a roddodd wahoddiad i bobl rannu eu barn ar sefydlu ysgol gynradd newydd dau ddosbarth mynediad ddwy ffrwd, i wasanaethu camau cyntaf y datblygiad ym Mhlasdŵr, gan gwmpasu rhannau o Greigiau, Sain ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed. 

Os aiff rhagddo, bydd yr ysgol newydd yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu gydag un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig llefydd Saesneg gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg. Byddai'r ysgol hefyd yn cynnig 96 o lefydd meithrin rhan-amser, gyda hanner y llefydd yn rhai Cymraeg a'r hanner arall yn rhai Saesneg ond hefyd â defnydd sylweddol o'r Gymraeg.

Mae sawl datblygiad tai newydd wedi dechrau cael eu codi yng ngogledd-orllewin Caerdydd mewn blynyddoedd diweddar. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiad Plasdŵr ar dir i'r gogledd ac i'r de o Heol Llantrisant ac i'r de o Heol Pentre-baen a Fferm Goitre Fach.

Bydd y cartrefi newydd yn cynyddu nifer y plant yn yr ardal sydd angen llefydd ysgol. Fel rhan o'r cyfraniadau y mae'r Cyngor wedi'u sicrhau ar gyfer adeiladu seilwaith cymdeithasol drwy ei gytundeb adran 106, bydd datblygwr Plasdŵr yn codi'r ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad er mwyn ateb y galw uwch am lefydd ysgol sy'n deillio o'r cartrefi newydd y mae'n eu codi.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rhoddodd yr ymgynghoriad cyhoeddus gyfle i bobl gael dweud eu dweud ac rwy'n falch fod mwyafrif yr ymatebion a ddaeth i law yn gefnogol i'r cynigion ar gyfer datblygu ysgol newydd.

"Os ânt yn eu blaen, byddai'r cynigion yn cynnig cyfle newydd a chyffrous o ran y mod dy caiff y Gymraeg ei dysgu i ddisgyblion mewn ysgol Saesneg, gan gynnig amrywiad arloesol ar y ddarpariaeth ysgol gynradd ddwy ffrwd draddodiadol. Byddai'n golygu sylw sylweddol fwy ar addysgu Cymraeg yn y ffrwd Saesneg, gan gefnogi ein dyheadau i dyfu'r Gymraeg yn unol â'r strategaeth ddwyieithog a osodwyd ger bron gennym, ac yn ei dro y mae'n gyson hefyd â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.  Mae'r Cyngor yn gwbl ymrwymedig i sicrhau y bydd unrhyw ffrydiau Cymraeg sydd yn ffurfio rhan o'r model hwn yn cyflawni'r un safonau uchel o ran addysgu a dysgu yn Gymraeg sydd yn gyson â'n hysgolion Cymraeg eraill ledled y ddinas.

"Drwy gynyddu ein haddysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd strategol, rydym yn sicrhau bod ein hysgolion newydd yn sefyll ar seiliau ariannol cadarn; bod ein hysgolion cynradd presennol yn parhau i fod yn ymarferol; a bod yr ysgolion yr ydym yn eu cynnig yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddewisiadau rhieni yr ydym yn eu gweld yng Nghaerdydd.

"P'un a fyddwch yn dewis addysg Gymraeg neu Saesneg, byddai'r ysgol newydd yn darparu addysg o safon uchel ag ethos Gymreig gref, gan gynnig cyfleoedd i blant  sy'n cael eu magu ym Mhlasdŵr fwynhau cyfleusterau ysgol rhagorol, mewn amgylchedd dysgu sydd yn addas i'r 21ain Ganrif."

Mae'r ysgol yn cael ei chynnig dan gytundeb Adran 106 Plasdŵr, ac mae'n ychwanegol at yr ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu ehangu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dan ei rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284m.

Os bydd yn mynd rhagddi bydd yr ysgol newydd yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2021.

Mae copi llawn o'r adroddiadau ar gael i'w gweld ar-lein arhttps://cardiff.moderngov.co.uk/ieDocHome.aspx?bcr=1&LLL=1