Back
Newidiadau i’r ddarpariaeth addysg yn Adamsdown a Sblot

23.1.20

Cafodd argymhelliad i ddatblygu cynigion diwygiedig ar gyfer cynnig llefydd addysg yn Adamsdown a Sblot, yn cynnwys y cynlluniau ibeidio â bwrw ymlaen â chau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn Nhremorfa, ei gymeradwyo gan y Cabinet heddiw.

 

Roedd y cynnig i beidio â chynnal yr ysgol,ar gais yrArchesgobaeth Gatholig mewn pecyn o gynigion RhaglenBand B Ysgolion y 21ain Ganrif am lefydd ysgol yn Adamsdown a Sblot a aeth i ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

 

Roedd cais yr Archesgobaeth yn seiliedig yn bennaf ar nifer isel y disgyblion o deuluoedd Catholig a oedd yn dewis mynd i ysgol Sant Alban. Fodd bynnag, mae niferoedd y disgyblion Catholig sy'n mynd i'r ysgol yn debyg i rai ysgolion Catholig eraill yng Nghaerdydd.

 

O ganlyniad, mae'r Archesgobaeth wedi diddymu ei chais i gau'r ysgol ac mae rhagor o waithi ddatblygu cynigion ad-drefnu a buddsoddi diwygiedig ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn yr ardal yn mynd rhagddo. Ni fydd Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn cau fel rhan o'r cynigion diwygiedig, a ddygir yn ôl i'r Cabinet cyn gynted â phosibl.

 

Dyma'r cynigion gwreiddiol yn yr ymgynghoriad:

 

  • Cau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban o 31 Awst 2021;

 

  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell i 630 (3 dosbarth mynediad) a lleihau ystod oedran yr ysgol o 3-11 oed i 4-11 oed o fis Medi 2021;

 

  • Symud Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa a newid yr adeiladau presennol am gyfleusterau newydd gyda lle i 630 disgybl (3 dosbarth derbyn).

 

  • Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Brac Tremorfa a gosod adeiladau newydd sy'n cynyddu maint yr ysgol i 1,200 lle (8 dosbarth derbyn);

 

  • Sefydlu darpariaeth ôl-16 ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion yn yr adeiladau
    newydd;

 

  • Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa i 128 lle ac ehangu ystod y gwasanaethau a roddir ar y safle gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg a chymorth rhianta, mewn Canolfan Blant Integredig ar safle presennol Ysgol Feithrin Tremorfa a safle gwag Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban;

 

  • Uwchraddio'r cyfleusterau cymunedol yn Sblot drwy osod man agored newydd yn hen safle Ysgol Uwchradd Willows, cyfleusterau cymunedol sylweddol well ar safle'r ysgol newydd, a chaeau chwaraeon newydd a rennir gyda Chlwb Rygbi Sant Alban a'r gymuned leol ehangach ym Mharc Trefmora.

 

 

Cafodd y Cabinet newyddion am adborth gan ystod o randdeiliaid a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ei gyfarfod a chlywed na fyddai angen cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell bellach oherwydd ynewid yn yr amgylchiadau yr oedd y cynigion yn seiliedig arnyntac nad yw bellach yn ddichonol defnyddio adeiladau ysgol Sant Alban, a fyddai'n wag, er mwyn estyn Ysgol Feithrin Tremorfa.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym yn ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn a gwella'r ddarpariaeth addysg yn Sblot ac Adamsdown o'r blynyddoedd cynnar at ysgol uwchradd a darpariaeth ôl-16, a rhoimynediad i'r amgylchedd dysgu o'r safon orau oll ar gyfer plant a phobl ifanc, a budd i'r gymuned ehangach yn sgil y cyfleusterau gwell yno.

 

 

"Yn dilyn cais yr Archesgobaeth i ddiddymu'r cynnig i gau Ysgol Sant Alban, mae angen rhagor o waith nawr i addasu'r cynigion am lefydd ysgol yn Sblot ac Adamsdown a bydd hyn yn rhoi cyfle i ni werthuso rhai o'r pwyntiau a godwyd yn yr ymgynghoriad."