Back
Sut i leihau gwastraff bwyd ar Ddiwrnod Crempog

24.02.2020

Sut ydych chi'n bwyta eich un chi? Gyda lemwn a siwgr? Banana a siocled? Efallai eich bod chi'n ffafrio'r sawrus dros y melys? Sut bynnag ry'ch chi'n bwyta eich un chi, mae hi'n bwysig cofio bod Diwrnod Crempog yn ddigwyddiad sy'n seiliedig ar atal gwastraff, felly dyma sut gallwch chi leihau eich gwastraff chi.

 

  • Rhowch y plisgyn wy, lemonau wedi'u gwasgu a gweddillion yn eich bagiau a'ch cadi bwyd i'w hailgylchu.

 

  • Defnyddiwch sbarion o'ch swper i greu dewis sawrus ar gyfer Diwrnod Crempog. Rhowch gynnig arbolognaiseâ bwyd dros ben, neu hampestoa llysiau dros ben neu dato stwnsh dros ben. Mae 48 o ryseitiau pancos sawrus ar y wefan   BBC Good Food.

 

  • Os oes angen i chi brynu eich cynhwysion sylfaenol - menyn, llaeth ac wyau - ceisiwch eu prynu o siop ddiwastraff i leihau'r deunydd pecynnu rydych chi'n ei ddefnyddio. Chwiliwch ar y safle  Zero Waste Near Me  am awgrymiadau.

 

  • Darllenwch  Ailgylchu A-Y os nad ydych chi'n siŵr a allwn ni ailgylchu eitem.

 

Bydd preswylwyr yn cael cymorth ychwanegol i ailgylchu'n iawn dan gynllun newydd, sy'n lansioDdydd Llun 2 Mawrth, a fydd yn rhoi i chi pan fyddwch yn cyflwyno eitemau anghywir nad ydynt yn addas i'w hailgylchu.

Y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a chompostio a gesglir o ymyl y ffordd  - gan helpu'r ddinas i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.

Yn rhan o'r ymgyrch newydd, bydd sticeri pinc llachar yn cael eu rhoi ar finiau neu fagiau ailgylchu neu wastraff gardd yn rhoi gwybod i breswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd yn rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf. Dysgwch  fwy yma.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch  yma  a dilyn #OsPincYGweliCofianHapêlNi ar y cyfryngau cymdeithasol.