Mae'r digwyddiad sy'n rhad ac am ddim yn dilyn
llwyddiant y llynedd pan ddathlwyd pen-blwydd y Parc yn 70. Bryd hynny agorwyd
meithrinfeydd y Parc i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant,
Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae cael Parc Bute yng
nghalon y ddinas yn un o'r llu o bethau sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac
mae hwn yn gyfle gwirioneddol dda i gael gwybod mwy am ei hanes, y gwaith sy'n
mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni, a chael rhai cynghorion gan yr arbenigwyr sy'n
gweithio yno bob dydd ."
Yn rhan o'r digwyddiad a gynhelir yng
Nghanolfan Addysg Parc Bute ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth mae:
·
Sgwrs
am Erddi Fictoraidd Parc Bute a'u cysylltiadau ag ystâd deuluol Bute ar Ynys
Bute.
·
Taith
dywys yn archwilio casgliad coed enwog y Parc.
·
Gwenynwr
preswyl Parc Bute yn siarad am y cychod gwenyn a gyflwynwyd i'r Parc yn
ddiweddar.
·
Cyfle
i gael cynghorion gan dîm o arddwyr arbenigol y Parc wrth iddyn nhw gymryd rhan
ym mhanel 'Gardener's Question Time'.
·
Cyfle
prin i fynd ar daith o amgylch y tai gwydr lle mae tîm Meithrinfeydd Parc Bute
yn tyfu planhigion ar gyfer basgedi crog, potiau blodau a pharciau'r ddinas, a
chyfle i ymweld â Gardd Salad Caerdydd - menter gymdeithasol arloesol sy'n tyfu
llysiau salad ar gyfer bwytai'r ddinas ac sy'n gwella iechyd meddwl.
·
Clywed
perchennog Caffi'r Ardd Gudd yn disgrifio ryseitiau sy'n defnyddio llysiau
tymhorol y gallwch fynd â nhw gyda chi a rhoi cynnig arnynt gartref.
·
Gwerthiant
planhigion, wrth i Feithrinfeydd Parc Bute agor eu drysau i'r cyhoedd am y tro
cyntaf eleni a Ffeiriau Planhigion Caerdydd yn y Parc sydd ag amrywiaeth o
blanhigion arbenigol i'w prynu.
·
Llu o
weithgareddau galw heibio i'r teulu i ddiddanu'r plant drwy gydol y dydd.
Gellir archebu tocynnau am ddim o flaen llaw
drwy:https://www.eventbrite.co.uk/o/bute-park-15541788264