Back
COVID-19, diweddariad, dydd Sul 22 Mawrth - Newyddion am ddarpariaeth gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol....

Newyddion am ddarpariaeth gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol mewn ysgolion a phrydau ysgol am ddim 

Gofynnir i rieni ar draws Caerdydd i gadw eu plant gartref - os gallant - wrth i drefniadau gofal plant newydd ar gyfer plant gweithwyr allweddol baratoi i agor yn y ddinas. 

Er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad COVID-19 yn cael ei arafu neu ei atal, dywedir wrth weithwyr allweddol mai dim ond ar ôl i'r holl fathau eraill o gymorth i blant gael eu dihysbyddu y bydd darpariaeth ysgol yn cael ei defnyddio. 

Bydd ysgolion Caerdydd yn canolbwyntio ar ddarparu trefniadau gofal plant ar gyfer staff y GIG, gweithwyr gofal a'r gwasanaethau brys yn unig, yn y lle cyntaf, pan fydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun, Mawrth 23. Mae'r ddarpariaeth mewn ysgolion ar gyfer disgyblion rhwng 3-14 oed. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford heddiw: "Os gellir cadw'ch plentyn gartref, dylid cadw eich plentyn gartref. 

"Os bydd mwy nag 20% o blant yn dod i'n darpariaethau gofal plant newydd mewn ysgolion, fyddwn ni ddim yn cael yr effaith o gau ysgolion sydd ei angen arnon ni er mwyn arafu'r clefyd." 

Mae Cyngor Caerdydd am daro cydbwysedd rhwng lleihau trosglwyddiad cymdeithasol y feirws a chefnogi gweithwyr allweddol y byddwn i gyd yn dibynnu arnynt wrth i'r achosion gynyddu. 

Dyna pam rydym wedi penderfynu rhoi ein ffocws, yn y lle cyntaf, ar y gweithwyr allweddol hynny yn y GIG, mewn gofal cymdeithasol a gweithwyr y gwasanaethau brys. 

Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i ni asesu faint o ofal plant sydd ei angen ar gyfer y gweithwyr allweddol hynny a fydd yn chwarae rhan bwysig yn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. 

Gall y dull hwn hefyd ganiatáu i ni ychwanegu at y grwpiau gweithwyr allweddol yn nes ymlaen - os bydd darpariaeth yn caniatáu hynny. Gwerthfawrogwn y gallai hyn fod yn broblem i rai rhieni, ond rydym yn gofyn iddynt ddeall mai dim ond ar ôl dihysbyddu pob math arall o gymorth y dylid defnyddio'r ddarpariaeth ysgol. 

Mae'n hanfodol bwysig felly ein bod yn symud i sefyllfa lle mae cymaint o ysgolion â phosibl yn cael eu cau i atal trosglwyddo'r feirws.  Yng ngoleuni'r galw disgwyliedig, bydd Caerdydd yn gweithio tuag at greu model hyb yn ystod y bythefnos nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i ni gau ysgolion gan sicrhau y gellir diwallu anghenion gofal plant mewn llai o adeiladau a bod adnoddau a staffio ar gael sy'n dilyn y cyngor mwyaf diweddar o ran rheoli risg. 

Mae'r Cyngoryn gofyn, oherwydd y risg o drosglwyddo, irieni beidio â danfon plant i ysgolion o dan y trefniadau newydd osoes ganddynt beswch a/neu dymheredd uchel, neu os oes ganunrhyw un yn eu haelwyd symptomau COVID-19. Dilynwch holl ganllawiau iechyd y cyhoedd ar ofynion ynysu ac ymbellhau cymdeithasol. 

Gofal plant (cyn-ysgol) 

Yn yr un modd â chyngor i blant oed ysgol gweithwyr allweddol, dim ond lleiafrif bach o blant ddylai fod yn mynychu lleoliadau gofal plant.  Oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol hanfodol, bydd hyn yn golygu lledaenu'r ddarpariaeth dros nifer fawr o leoliadau, ond dros amser efallai y byddai angen cyfuno'r ddarpariaeth mewn llai o leoliadau.  

Nid gofyn i leoliadau gau yr ydym ni, ond argymell mai dim ond ar gyfer y plant hynny sy'n blant i weithwyr allweddol hanfodol neu'n rhai sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed y maent yn gofalu amdanynt.   Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r rhan fwyaf o leoliadau gofal plant (gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg lle mae'r Awdurdod Lleol yn gofyn am hyn) aros ar agor er mwyn darparu digon o ddarpariaeth. 

Grwpiau agored i niwed 

Mae ysgolion yn rhoi ffyrdd priodol o gadw mewn cysylltiad ar waith ac yn cynnig cymorth ar sail angen gyda phob plentyn agored i niwed. 

Darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim o ddydd Llun 23 Mawrth 

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim ar hyn o bryd, bydd yn gallu casglu bag bwyd o'r ysgol ddydd Llun o 12:00pm. 

Os yw eich plentyn yn cael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, neu os yw'n mynychu ysgol arbennig yng Nghaerdydd, bydd yn gallu casglu ei fag bwyd o'ch ysgol gynradd leol. 

Rydym yn cynhyrchu tua 13,000 o fagiau ddydd Llun. Byddant yn cynnwys brechdan gaws, creision, dŵr, ffrwythau/rhesins/bag llysiau. 

Yn anffodus ni fydd unrhyw ofynion amgen na gofynion dietegol penodol yn cael eu bodloni ddydd Llun. Bydd gwybodaeth alergen yn cael ei hargraffu ar yr eitemau/bag bwyd a ddanfonir. 

Rydym yn deall efallai nad yw'r system hon yn addas i rai o'n disgyblion, ond gofynnwn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Roedd yn rhaid rhoi'r cynllun hwn at ei gilydd yn gyflym iawn wrth i ni weithio drwy'r cyfnod digynsail a heriol hwn.Rydym yn gobeithio datblygu ac addasu'r gwasanaeth dros yr wythnosau nesaf. 

Atgoffir rhieni na fydd disgyblion yn cael bwyta'r cinio ar y safle ac wrth gasglu o'r ysgol dylech fod yn ymwybodol o'r canllawiau cyfredol ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.