Credir bod y risg o drosglwyddo o blentyn i
blentyn ar offer chwarae yn ormod o risg i'r cyhoedd wrth i ni geisio arafu
trosglwyddiad COVID-19.
Bydd Parciau Caerdydd yn aros ar agor ar hyn o
bryd. Rydym yn deall y rôl y gallant ei chwarae o ran cynorthwyo lles yn ystod
y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, rydym yn annog pawb sy'n ymweld
â'n parciau i ymarfer ymbellhau cymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol os ydym am
arafu neu atal trosglwyddo COVID-19 o berson i berson.
Os na ddilynir rheolau ymbellhau cymdeithasol
yn ein parciau yna efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu'r sefyllfa hon a
gallent yna fod ar gau i'r cyhoedd.
Rydyn ni felly'n argymell yn gryf bod pobl yn
osgoi unrhyw dorfeydd, ac yn ymarfer ymbellhau cymdeithasol, er mwyn i barciau
gael parhau i fod ar agor