Back
Help llaw i'r rhai sydd mewn angen


25/03/20

Mae amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth wedi'u rhoi ar waith i bobl sy'n profi anawsterau gyda bwyd a darpariaethau hanfodol eraill ar hyn o bryd.

 

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner i sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen fel rhan o ymateb y ddinas i'r Coronafeirws.

 

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael, o siopa am fwyd i'r rhai na allant adael eu cartrefi eu hunain, i ddarparu parseli bwyd brys a hanfodion eraill i bobl sy'n cael trafferth ariannol. Ymatebodd nifer fawr o wirfoddolwyr i alwad y Cyngor ar i gymunedau ddod ynghyd er mwyn helpu ei gilydd o dan y cynllun, Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd. Bydd y gwirfoddolwyr yma yn helpu i ddarparu'r cymorth hwn i breswylwyr.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae hwn yn gyfnod rhyfedd i ni i gyd a gwyddom y bydd rhai trigolion yn teimlo'n bryderus iawn o ran sut y gallant ddarparu bwyd i'w hunain a'u teuluoedd.

 

"Os oes unrhyw un yn cael trafferth i gael yr hanfodion hyn, cysylltwch â ni fel y gallwn helpu. Mae ein timau yn yr hybiau yn gweithio'n aruthrol o galed i sicrhau y darperir ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf. "

 

Mae cymorth ar gael fel a ganlyn:

 

Ar gyfer pobl NAD sy'n ynysu eu hunain ond yn methu â fforddio nwyddau hanfodol

 

Mae gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd y ddinas yn cefnogi'r Banc Bwyd, gan ddosbarthu parseli brys o bedair canolfan graidd yn y ddinas - Hyb Trelái a Chaerau, y Pwerdy yn Llanedern, Hyb Llaneirwg neu Hyb y Llyfrgell Ganolog. Pan fydd yr hybiau wedi cau ar gyfer mynediad cyffredinol i'r cyhoedd, gall preswylwyr gnocio ar ddrws yr Hyb a gall y staff helpu drwy roi parsel o fwyd a hanfodion.

 

I bobl sydd YN hunan-ynysu ac heb deulu na chymorth ganddynt

Dylai unrhyw un yn y sefyllfa hon sydd angen cymorth i brynu nwyddau ffonio'r llinell Gynghori ar 029 2087 1071 i gael ei rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr sy'n gallu helpu gyda siopa. Mae'r gwasanaeth hwn ond ar gael ar gyfer y rhai sydd heb neb arall ar gael i helpu.

 

 

I'r rhai sydd am gynnig help

Mae cyfleoedd ar gael ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd ynwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uk

Ers lansio Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yr wythnos diwethaf, mae'r Cyngor wedi cael ei synnu gan nifer y bobl sy'n cynnig eu gwasanaethau a'u hamser i helpu eraill. Bellach, mae gan y wefan fanylion nifer o sefydliadau sy'n chwilio am wirfoddolwyr y gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Mae llawer o grwpiau wedi'u sefydlu ar lefel cymdogaeth sy'n caniatáu i wirfoddolwyr allu helpu pobl sy'n byw gerllaw. 

 

Ar gyfer busnesau sydd awydd helpu

 

Mae'r Cyngor yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw fusnesau a hoffai gefnogi'r ymdrechion i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn y ddinas, drwy gyfrannu bwyd neu eitemau hanfodol.  Ffoniwch ein llinell wirfoddoli ar 029 2087 1239 neu e-bostiwchgwirfoddoli@caerdydd.gov.uk.