Back
Cwestiynau Cyffredin yn ystod argyfwng COVID-19

Cwestiwn 1: Pam ydych chi'n newid y casgliadau?

Ateb: Mae gennym weithlu mawr sy'n gweithio'n galed i gynnal casgliadau rheolaidd.  Mae rhai o'n gweithlu wedi cael eu symud i wneud dyletswyddau hanfodol eraill. Fel gweddill y DU, bydd rhai o'n tîm yn dangos symptomau/cael eu heintio â COVID-19 ac mae angen dilyn canllawiau'r Llywodraeth i'w hynysu. Mae'n bosibl y rhoddir rhai yn y categori agored i niwed, a bydd angen iddynt ddilyn canllawiau pellach ynghylch ynysu.

Mae angen i ni gydbwyso diogelwch a lles ein gweithlu, ynghyd â'n dyletswydd i barhau i ddarparu gwasanaeth casglu ymyl y ffordd hanfodol i chi gyd.

Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn wydn, ac yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol i chi gyd, rydym wedi gorfod canslo rhai o'n gwasanaethau casglu sy'n cael blaenoriaeth is. Fodd bynnag, rydym bellach wedi cynyddu eich gwasanaeth wrth ymyl y ffordd i wasanaeth wythnosol i bob math o wastraff - ac eithrio gwastraff gardd.

Cwestiwn 2: Pam mae casgliadau gwastraff gardd gwyrdd wedi cael eu canslo, pan fydd pawb gartref yn gweithio yn eu gerddi?

Ateb: Mae casgliadau gwastraff gardd gwyrdd wedi'u canslo hyd nes yr hysbysir fel arall, er mwyn rhoi blaenoriaeth i waredu pob math arall o wastraff bob wythnos. Gofynnwn i breswylwyr storio eu gwastraff gardd yn eu gerddi nes bod yr argyfwng drosodd.

Cwestiwn 3: Felly, ni ellir rhoi gwastraff gardd gwyrdd allan gyda'ch gwastraff bag du cyffredinol?

Ateb: Na ellir - os byddwch yn rhoi gwastraff gardd gwyrdd allan i'w gasglu gyda'ch bag du gwastraff cyffredinol, ni chaiff ei gasglu.

Cwestiwn 4: Beth am eitemau swmpus, eitemau trydanol a batris? Beth ddylwn i ei wneud gyda'r rhain?

Ateb: Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) wedi'u cau ar ôl cael cyngor gan y Llywodraeth. Rhaid cadw'r holl eitemau swmpus yn eich cartref hyd nes y bydd yr argyfwng hwn drosodd. Mae'n hanfodol nad oes unrhyw un yn rhoi eitemau trydanol na batris allan yn eu gwastraff cyffredinol. Bydd hyn yn achosi problemau gweithredol sylweddol os byddwch chi'n gwneud hyn, ac ni chaiff eitemau trydanol/batris eu casglu.

Cwestiwn 5: Beth dylwn i ei wneud gyda fy hancesi papur?

Ateb: Os ydych yn gwybod neu'n amau bod Covid-19 arnoch chi, mae angen i'r holl hancesi papur/llieiniau glanhau untro gael eu bagio'n ddwbl a'u rhoi ar wahân i wastraff arall am 72 awr.

Ar ôl 72 awr, bydd angen gosod y bagiau yn eich bin DU/bagiau streipiau coch.

Ni fydd criwiau'n casglu unrhyw fagiau ailgylchu gwyrdd gyda hancesi papur ynddynt. Ni ellir ailgylchu hancesi papur. Mae ailgylchu yn cael ei ddidoli â dulliau mecanyddol a llaw. Mae bagiau sydd wedi'u halogi â hancesi papur yn rhoi ein gweithlu mewn mwy o berygl o gael haint.

Cwestiwn 6: Gan fy mod yn gweithio gartref mae gennyf ormod o wastraff - beth gallaf i ei wneud ag ef?

Ateb: Rydym bellach wedi symud i gasgliad wythnosol. Parhewch i ddefnyddio'r bagiau gwyrdd i ailgylchu.

Os ydych yn byw mewn ardal bagiau, daliwch ati i ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd ar gyfer unrhyw fwyd dros ben.

Rydym yn gwerthfawrogi efallai y byddwch yn cynhyrchu mwy o wastraff ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i osgoi gwastraffu bwyd. Os ydych wedi prynu swmp o fwyd, defnyddiwch eich rhewgell i gadw pethau fel cig/llaeth/bara ffres. Ceisiwch ddefnyddio bwyd sydd dros ben, neu wneud pryd arall gyda'r gweddillion sydd gennych.

Mae'n anorfod y bydd rhywfaint o wastraff bwyd, megis crwyn wedi eu plicio, plisg wy - gallech geisio compostio'r rhain gartref ond gofynnwn i chi beidio â rhoi unrhyw wastraff bwyd wedi'i goginio yn eich bin compostio cartref nac ar y domen gompost.

Pan fyddwch yn y siopau, ystyriwch brynu cynnyrch sydd â llai o ddeunydd lapio.

Os yw eich plant gartref gyda chi ar hyn o bryd, efallai eich bod yn chwilio am brojectau crefft a phethau i'w gwneud. Gallwch ddefnyddio llawer o becynnau y byddech fel arfer yn rhoi yn eich bagiau gwyrdd ar gyfer hyn. 

Cwestiwn 7: Ble byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf?

Ateb: Bydd unrhyw ddiweddariadau a newidiadau i wasanaethau yn cael eu gwneud yn y mannau canlynol:

-         Facebook

-         Twitter

-         Gwefan  www.caerdydd.gov.uk/coronafeirws 

-         App Caerdydd Gov

-         Datganiadau i'r wasg drwy Newyddion Caerdydd

Caiff diweddariadau neu newidiadau i wasanaethau eu cyhoeddi'n ddyddiol.

Cwestiwn 8: Allaf i ddim cael gafael ar fagiau ailgylchu na bagiau bwyd.

Ateb: Bellach, dim ond 4 Hyb craidd sydd ar agor yn y Ddinas hon, ac mae nifer o'r cyflenwyr lleol hefyd wedi cael cais i gau.

Fodd bynnag, rydym wedi nodi nifer o siopau bwyd lleol sy'n parhau i fod ar agor, ac rydym yn cadw stoc gyda'r rhain. Gallwch weld pwy ydy eich cyflenwr lleol ar-lein yn:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx  neu drwy'r app.

Bydd angen i chi nodi rhif eich tŷ a'ch cod post i ddod o hyd i'ch cyflenwr agosaf.

Os na allwch gael gafael ar rai, cyhoeddwch rywbeth yn eich cymuned i weld a oes gan unrhyw un rai sbâr. Cofiwch gadw pellter cymdeithasol os oes rhywun yn ateb, efallai codwch nhw o'r tu allan i'w heiddo.

Gall fod cyflenwad gan gynghorwyr lleol hefyd. Unwaith eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal pellter cymdeithasol os ydych yn casglu bagiau.

Gallwch brynu bagiau cadis bwyd mewn siopau.

Fodd bynnagrhaid iddynt gynnwys y logo isod a safon EN 13432

 

cid:image001.png@01D60688.A9803940

 

Cwestiwn 9: A gaf i ostyngiad yn fy Nhreth Gyngor?

Ateb: Ni fydd eich Treth Gyngor yn newid o ganlyniad i unrhyw newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu a gwastraff yn ystod y pandemig.

Cwestiwn 10: Rydw i wedi cael sticer pinc/llythyrau am eitemau anghywir gyda'r ailgylchu-ydy'r broses hon yn ddilys o hyd?

Ateb: Nac ydy, anwybyddwch y llythyr hwn. Mae hwn wedi ei anfon ar sail awtomataidd, o gasgliadau blaenorol.

Rydym yn dal i'ch annog i roi eitemau cywir yn eich bag ailgylchu, gan olchi'r eitemau hyn cyn eu rhoi yn eich bag. Bydd hyn yn cadw eich ailgylchu yn lân ac yn hylan i chi ac i'n timau casglu gwastraff.

Bydd y broses hon yn fyw eto, pan fydd yr argyfwng hwn drosodd.

Cwestiwn 11: A gaf i roi fy sbwriel mewn bin sbwriel, nawr eich bod wedi canslo casgliadau?

Ateb: Na. Rydym yn parhau i gasglu eich gwastraff wrth ymyl y ffordd bob wythnos. Nid oes angen rhoi eich gwastraff cartref mewn biniau sbwriel. Peidiwch â gwneud hyn, gan y bydd yn cynyddu'r pwysau ar ein timau glanhau strydoedd, ac mae llawer o staff wedi'u hanfon i gyflawni dyletswyddau hanfodol eraill.

Cwestiwn 12: Pam rydych wedi cau'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Ateb: Ar gyfarwyddyd y Llywodraeth o 23 Mawrth, rhaid i breswylwyr aros gartref ar wahân i siwrneiau hanfodol. Felly, mae ein CAGCau wedi cau.

Cwestiwn 13: Mae fy app/calendr ar-lein yn dangos y wybodaeth anghywir, o'i chymharu â'r wybodaeth yn y datganiad/ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/coronafeirws

Ateb: Rydym yn diweddaru'r wybodaeth hon mor gyflym ag y gallwn.

Efallai na fydd yn bosibl diweddaru ymlaen llaw ac mae pethau'n newid yn gyflym iawn; cadwch lygad ar  www.caerdydd.gov.uk/coronafeirws  am ddiweddariadau dyddiol, a dilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Cwestiwn 14: Rwy'n hunanynysu - a oes modd i mi gael casgliad cofnodedig dros dro (codi â chymorth) ar gyfer fy miniau?

Ateb: Nac oes. Mae casgliadau wedi'u cofnodi ar gyfer y rhai sydd â chyflyrau hirdymor, sy'n golygu bod angen cymorth arnynt i roi gwastraff allan i'w gasglu.

Rydym bellach yn cynnal gwasanaeth casglu wythnosol, felly a fyddech cystal â rhoi eich gwastraff allan i'w gasglu gynted â'ch bod yn teimlo'n iawn.

Os ydych wedi cael symptomau, neu os cadarnhawyd bod coronafeirws arnoch, dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer sut i waredu eich gwastraff yn ddiogel er mwyn amddiffyn ein staff.

Cwestiwn 15: Rwyf eisoes wedi cofrestru ar gyfer casgliad cofnodedig (lifft â chymorth) ar gyfer fy miniau. A fydd hyn yn parhau?

Bydd y gwasanaeth hwn yn parhau yn ôl yr arfer. Gadewch eich biniau yn eu lleoliad cytunedig, o fewn ffin eich eiddo.

Cwestiwn 16:  Pam nad ydych chi'n parhau i gasglu bwyd ar wahân yn yr ardaloedd biniau?

Ateb: Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwastraff bwyd mewn cynhwysydd, er mwyn lleihau'r risg y caiff bagiau eu hollti ar agor a chadw gwastraff mor hylan â phosibl ar gyfer preswylwyr, a'n criwiau casglu.

Gan fod gennych chi fin olwynion du, rydym yn gofyn i chi roi eich gwastraff bwyd yn y bin hwn nes y hysbysir fel arall.

Cofiwch, mae eich bin du nawr yn cael ei gasglu bob wythnos, felly bydd eich gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu o'ch eiddo yn wythnosol.

Cwestiwn 17:  Pam ydych chi'n casglu gwastraff bwyd ar wahân mewn ardaloedd bagiau?

Ateb: Rydym yn parhau i gasglu gwastraff bwyd o'ch cadi ymyl y ffordd os ydych yn byw mewn ardal bagiau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwastraff bwyd mewn cynhwysydd, er mwyn lleihau'r risg y caiff bagiau eu hollti ar agor ac i gadw gwastraff mor hylan â phosibl ar gyfer preswylwyr, a'n timau casglu. Bydd eich cadi gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu'n wythnosol.

Cwestiwn 18: Dw i'n byw mewn ardal biniau - allaf i barhau i wahanu fy mwyd yn y tŷ?

Ateb: Gallwch - os oes gennych chi gadi cegin a bagiau cadi, gallwch chi barhau i wahanu bwyd yn eich tŷ. Ond does dim rhaid i chi. Pan fydd eich bag cadi yn llawn, clymwch ef a'i roi yn eich bin du i'w gasglu.

Cwestiwn 19: Does gen i ddim cadi ymyl y ffordd/cadi cegin/bagiau cadi.

Ateb: Ardal bagiau- gallwch archebu'r rhain ar-lein  www.caerdydd.gov.uk/ailgylchu  neu drwy'r app. Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch cyflenwr lleol drwy'r sianeli hyn, ac maen nhw'n cael cyflenwad rheolaidd o fagiau cadi bwyd.

Fodd bynnag, mae angen danfon cadis i'ch eiddo, felly bydd angen archebu'r rhain. Byddwn yn blaenoriaethu danfon y rhain gymaint â phosibl, er mwyn sicrhau bod gennych yr hyn mae arnoch ei angen. Ein hamser danfon safonol yw 15 diwrnod gwaith, ond rydym yn rhagweld rhywfaint o oedi pellach yn hyn o beth.

Ardal biniau:Ni fyddwn yn danfon yr eitemau hyn i'ch eiddo mwyach. Os gosodwch archeb, neu os ydych chi wedi gwneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf a heb gael eich eitemau eto, ni chaiff y rhain eu danfon.

Cwestiwn 20: Does gennyf ddim bagiau streipiau coch ar ôl

Ateb: Gallwch ddefnyddio bagiau du. Byddwn yn rhoi mwy o fagiau streipiau coch i bawb pan fo'r argyfwng hwn drosodd.

Parhewch i ddefnyddio eich bagiau gwyrdd i ailgylchu, a'ch cadi gwastraff bwyd, i gyfyngu ar nifer y bagiau streipiau coch/du rydych yn eu rhoi allan i'w casglu bob wythnos.

Cwestiwn 21:  A fyddwch chi'n casglu bagiau ychwanegol/eitemau swmpus o wastraff?

Ateb: Na fyddwn. Rydym wedi cynyddu eich casgliadau, ac erbyn hyn rydych yn cael casgliad gwastraff na ellir ei ailgylchu (cyffredinol) yn wythnosol. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol wrth ochr eich bin du/bagiau streipiau coch, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol pan fo eiddo wedi'i gofrestru gyda'r gwasanaeth casglu gwastraff hylendid.

Dylech fod yn ystyriol o'n timau casglu, a'n cymuned yng Nghaerdydd yn gyffredinol. Rydym yn ceisio cynnal gwasanaeth ymyl y ffordd wythnosol i bawb, tra hefyd yn rheoli gostyngiadau staff oherwydd eu bod yn cael eu hadleoli, yn cyflawni dyletswyddau eraill neu'n sâl. Mae angen i ni gyd weithio gyda'n gilydd i wneud hyn, a bydd gosod gwastraff ychwanegol yn cyflwyno hyd yn oed mwy o her i'n criwiau a'r ddinas.

Cwestiwn 22: Dyw fy ngwastraff ddim wedi cael ei gasglu - beth dylwn i ei wneud?

Ateb: Mae ein timau casglu yn datblygu'r ffordd newydd hon o weithio, ac rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hwn.

Os oes gennych gasgliad a fethwyd, ni fyddwn yn gallu dychwelyd i'w gasglu. Nid oes angen i chi gysylltu â ni. Byddwn yn dychwelyd yr wythnos nesaf.

Os ydych wedi'ch cofrestru i gael casgliad wedi'i gofnodi (lifft â chymorth) ac rydym yn methu eich biniau, fyddwn ni ddim yn gallu dychwelyd. Ond mae angen i ni roi gwybod i'n criwiau eu bod wedi'ch colli. Rhowch wybod i ni drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ein ffurflen cyswllt ar-lein yma:  http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Casgliadau-gwastraff-a-deunyddiau-ailgylchu/Help-gyda-rhoi%20eich-bagiau-a'ch-biniau-allan/Pages/default.aspx 

Cwestiwn 23:  Sut y byddwn yn casglu eich gwastraff:

Ateb:I symleiddio'r gweithrediadau gwastraff a sicrhau y gallant barhau gyda gweithlu llai, efallai na fydd yn bosib i ni ddidoli gwastraff ailgylchu yn ystod yr argyfwng, felly, bydd yn mynd i'r gwaith troi gwastraff yn ynni ynghyd â'r gwastraff gweddilliol. Argyfwng iechyd cyhoeddus yw hwn, felly dyma'r ffordd fwyaf diogel o waredu gwastraff a allai fod yn cario COVID-19. 

Bydd unrhyw wastraff bwyd y byddwn yn parhau i'w gasglu ar wahân yn mynd i'n Ffatri Treulio Anaerobig.

Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i bobl barhau i ailgylchu yn eu bagiau gwyrdd, felly mae ganddynt le yn eu bin du ac maent yn cadw eu harferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.

Cwestiwn 24:  Pam dylen ni barhau i wahanu ein hailgylchu:

Ateb:  Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr mewn ardaloedd bagiau barhau i wahanu eu gwastraff bwyd. Bydd hyn yn ei gadw mewn cadi ymyl y ffordd ac yn lleihau'r risg y caiff eich bagiau eu rhwygo ar agor.

Rydym yn gofyn i chi barhau i wahanu deunyddiau eraill mewn bagiau gwyrdd, yn union fel y byddech chi fel arfer. Rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/bagiau stribed coch ar gyfer yr eitemau hyn pe na bai casgliad ar gyfer y bagiau gwyrdd.

Mae golchi'r deunyddiau hyn cyn eu rhoi yn eich bagiau gwyrdd yn cadw'r deunydd yn lân ac yn hylan, i chi a'n timau casglu.

Rydyn ni eisiau i bawb gadw eu harferion ailgylchu arferol. Pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, rydym yn hyderus y gallwn fod yn brif ddinas graidd arweiniol o ran ailgylchu yn y DU unwaith eto.

Cwestiwn 25: Beth yw cyngor y Cyngor ar reoli gwastraff gardd gwyrdd yn ystod y pandemig?

Ateb: Yn anffodus, o ganlyniad i flaenoriaethu adnoddau, rydym wedi ATAL yr holl gasgliadau gwastraff gardd DROS DRO. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylech roi'r gorau i fwynhau'r ardd.  Mae gennych nifer o opsiynau ar gyfer delio â'ch gwastraff gardd.

Y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o ymdrin â glaswellt wedi ei dorri, darnau ar ôl torri gwrychoedd ac ati yw trwy gompostio yn y cartref. Gall hyn fod mor syml â rhoi eich holl doriadau mewn pentwr taclus mewn cornel dawel yn yr ardd. Cymysgwch ychydig o bapur, cardfwrdd a chroen llysiau o'r gwastraff bwyd i greu pentwr a fydd yn dadelfennu o fewn rhai wythnosau i greu compost gwych y gellir ei ailddefnyddio yn yr ardd. Fel arall, cadwch eich gwastraff gardd mewn storfeydd yn eich bin gwyrdd/sachau amldro.

Rydym yn argymell eich bod hefyd yn dilyn  www.caerdydd.gov.uk/coronafeirws  i weld newyddion diweddar ynghylch gwastraff.

Cwestiwn 26: Beth sy'n digwydd os wyf yn byw mewn fflat?

Ateb: Os ydych yn byw mewn fflat, parhewch i ailgylchu yn ôl yr arfer. Bydd eich gwastraff bwyd, eich gwastraff cyffredinol a'ch ailgylchu yn cael eu casglu'n wythnosol.

Cwestiwn 27: Beth ddylwn i ei wneud gyda fy gwastraff hylendid (cewynnau/anymataliaeth)?

Os oes bin du gennych: Gallwch barhau i ddefnyddio eich bagiau melyn, neu gallwch ddefnyddio bagiau du. Rhowch nhw yn eich bin du. Os na fyddant yn ffitio, bydd ein timau'n gwybod pa eiddo oedd yn defnyddio'r gwasanaeth hylendid, a byddant yn casglu bagiau ychwanegol o'r tu allan i'ch bin

Os ydych yn byw mewn ardal bagiau, gallwch barhau i ddefnyddio eich bagiau melyn, neu gallwch ddefnyddio bagiau du. Mae ein timau yn gwybod pa eiddo oedd yn defnyddio'r gwasanaeth hylendid, a byddant yn casglu bagiau ychwanegol o'r tu allan i'ch eiddo.