Back
COVID19: Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu dros y Pasg

06.04.2020

Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un peth yn ystod y Pasg eleni, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd casglu yn newid felly sicrhewch fod eich gwastraff allan erbyn 6am.

Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn gweithredu ar Ddydd Gwener y Groglith (10 Ebrill) a Dydd Llun y Pasg (13 Ebrill).

Bydd ein casglwyr sbwriel yn gweithio ar draws gwyliau banc y Pasg i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau.

Ailgylchu

Rydym yn gofyn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchadwy, yn union fel y byddech fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.

Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ailgylchu yn eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.

Gall yr eitemau canlynol fynd yn eich bag ailgylchu gwyrdd:

     Blychau Cardfwrdd Wyau Pasg

     Pecynnu plastig o flychau wyau Pasg

     Ffoil (gwnewch yn siŵr ei fod yn lân ac wedi ei wasgu yn belen.

Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gwiriwch ein  A-Y ailgylchu.

Celf a Chrefft Ailgylchu ar gyfer y Pasg

Os yw eich plant gartref gyda chi ar hyn o bryd, efallai eich bod yn chwilio am brojectau crefft a phethau i'w gwneud.

Gallwch ddefnyddio llawer o becynnau y byddech fel arfer yn eu rhoi yn eich bagiau gwyrdd ar gyfer hyn. 

     Gallech ddefnyddio rholiau toiled i wneud  cwningod a chywion y Pasg

     Gallwch droi  blychau wyau'n flodau

     Gallech arbed y ffoil o'r Wyau Pasg i wneud celf.

Mae llawer o syniadau ar  Pinterest  o Google i'ch rhoi ar ben ffordd.