Back
Hwb ariannol yn lansio cronfa apêl fwyd y ddinas


 8/4/20

Mae apêl newydd a lansiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd i gefnogi pobl mewn angen gyda bwyd a hanfodion brys drwy gydol argyfwng COVID-19 wedi cael ei ddechrau gyda rhoddion sy'n dod i £80,000.

 

Mae Admiral wedi rhoi £50,000 i helpu i lansio Apêl Bwyd Caerdydd, cynllun rhodd newydd a fydd yn ariannu'r gwaith o gyrchu a chyflenwi bwyd ac eitemau hanfodol eraill i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd.

 

Mae dau gymwynaswr di-enw yn y ddinas hefyd wedi rhoi symiau mawr, gan gynyddu'r swm gan £30,000. Rhoddwyd yr arian yn dilyn llythyr a ysgrifennwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas, i gwmnïau blaenllaw ledled Caerdydd yn gofyn iddynt gefnogi'r gronfa.

 

Yr apêl yw'r fenter ddiweddaraf i sicrhau bod pobl sy'n cael anawsterau ariannol wrth brynu bwyd a phobl nad ydynt yn gallu siopa ar eu cyfer eu hunain ar hyn o bryd yn cael bwydydd. Bydd yr holl arian a godir drwy'r apêl yn cael ei wario ar fwyd a hanfodion.

 

Gellir gwneud rhoddion drwy ymweld âwww.cardiff.gov.uk/foodappeal

 

Dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae argyfwng COVID-19 yn cael effaith fawr ar draws y ddinas ac un her benodol yw'r cyflenwad bwyd.   Rydym yn gweithio'n galed i helpu'r rhai sydd mewn angen ar yr adeg anodd yma ac rydym yn lansio'r apêl hon er mwyn i'r gymuned fusnes leol ac aelodau o'r cyhoedd allu cefnogi ein hymdrechion drwy wneud rhodd ariannol.

 

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Admiral a'r ddau gymwynaswr arall o'r gymuned busnes lleol am y cyfraniadau sylweddol sydd eisoes wedi'u gwneud a fydd yn gwneud llawer i sicrhau bod gan bobl sy'n agored i niwed fwydydd.

 

"Rydym wedi sefydlu gwasanaeth yn gyflym iawn i ganfod a chyflenwi bwyd brys i'n bobl fwyaf agored i niwed sy'n hunanynysu, a'r rheini sy'n dioddef o effaith economaidd yr argyfwng. Mae dros 1,400 o barseli argyfwng eisoes wedi'u paratoi ar gyfer pobl mewn angen ac rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw, ynghyd â gostyngiad yn y stociau bwyd oherwydd y galw hwnnw, felly mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod ein cyflenwad bwyd yn gynaliadwy drwy gydol effaith COVID-19.

 

"Rydym yn gwybod bod yr argyfwng presennol yn cael effaith bellgyrhaeddol ar fusnesau yn y ddinas, cymunedau ac unigolion, ond gwyddom hefyd fod yna awydd aruthrol i helpu ein cymdogion a'n cyd-drigolion yng Nghaerdydd. Rydym wedi gweld hynny yn yr ymateb gwych a gawson ni i'n cynllun gwirfoddoli Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd sydd bellach â mwy na 1,000 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i gefnogi pobl yn ein cymunedau, felly rwy'n siŵr bod darparu bwyd i aelodau o'n cymuned sy'n agored i niwed ac sydd wedi eu heffeithio'n economaidd yn nod yr ydym oll yn ei rannu ac yn gallu cydymdeimlo ag e.

 

"All pawb ddim helpu ar lefel ymarferol, felly mae'r cynllun rhodd newydd hwn yn galluogi pobl sydd am gyfrannu'n ariannol i'r achos i allu gwneud hynny, gan wybod y bydd pob ceiniog a roddir yn mynd tuag at brynu bwyd ac eitemau hanfodol i bobl sydd eu hangen fwyaf yn ystod yr argyfwng Coronafeirws presennol."

 

Dywedodd Cristina Nestares, Prif Swyddog Gweithredol UK Insurance: "Rydyn ni'n gwmni balch o Gymru gyda'n pencadlys yng Nghaerdydd, a'n swyddfeydd yn Abertawe a Chasnewydd. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, ein blaenoriaethau yw lles ein staff a'u teuluoedd, cynnal gwasanaethau i'n cwsmeriaid a chefnogi ein cymunedau lleol. Felly, rydyn ni'n falch o allu rhoi £50,000 i Apêl Bwyd Caerdydd ac yn gobeithio y bydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r rheini sydd ei angen fwyaf."

 

Mae gwasanaeth bwyd brys y Cyngor ar waith ar hyn o bryd ac mae rhan o'r gwaith hwn yn ymwneud â chefnogi darpariaeth bresennol Banc Bwyd Caerdydd. Mae gwybodaeth am eu gwaith o ddosbarthu bwyd ar gael ymawww.Cardiff.foodbank.org.uk

 

Yn ogystal â hyn, ar gyfer y rhai nad ydynt yn hunanynysu ond nad oes arian ganddynt, mae parseli bwyd brys ar gael mewn pedair canolfan yn y ddinas, Trelái & Chaerau, Llaneirwg, y Powerhouse yn Llanedern a Hyb y Llyfrgell Ganolog. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar i Fanc Bwyd Caerdydd am roi bwydydd ar gyfer y parseli hyn. Mae mwy na 160 o barseli wedi'u casglu o'r hybiau hyn yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae bron 1,000 o barseli bwyd a hanfodion wedi'u dosbarthu i aelwydydd sy'n hunanynysu ac sy'n methu fforddio prynu hanfodion ac sydd heb rwydwaith teulu na rhwydwaith cymorth i'w helpu.

 

Gall unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â'r Llinell Gynghori ar 029 2087 1071 neu e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r rhoddion a gawsom eisoes wedi bod yn eithriadol o hael ac rwyf am ddiolch yn bersonol i'r rhai sydd wedi ein helpu i roi'r apêl ar waith am eu cyfraniadau. Bydd y cronfeydd hyn yn ein galluogi i ailgyflenwi ein stociau, bod yn sbardun ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch ein gwasanaeth hanfodol a, gobeithio, annog mwy o roddion i gefnogi'r fenter bwysig hon.

 

"Bydd unrhyw roddion y gall pobl eu gwneud, beth bynnag fo'r swm, yn cefnogi llawer o bobl yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod tyngedfennol sydd o'n blaenau.

 

"Gall pobl hefyd barhau i gefnogi Banc Bwyd Caerdydd, sy'n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed bob amser, nid yn unig yn ystod yr argyfwng hwn, yn eu mannau casglu arferol mewn archfarchnadoedd a mannau casglu eraill ledled y ddinas."

 

I wneud rhodd i Apêl Bwyd Caerdydd, ewch iwww.cardiff.gov.uk/foodappeal