Back
Parciau Caerdydd 'yn dawelach na'r arfer' er gwaethaf heulwen gŵyl y banc
Roedd Parciau Caerdydd ar y cyfan yn ddistaw y penwythnos hwn gyda'r rhan fwyaf o bobl yn parchu’r gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar y neges i aros gartref, aros yn ddiogel y penwythnos hwn.

"Gyda’r haul yn tywynnu a’r tymheredd yn uchel dros benwythnos gŵyl y banc, byddai parciau Caerdydd fel arfer yn llawn pobl, ond mae ein staff parciau, sydd wedi bod allan ar batrôl gyda'r heddlu bob dydd, gyda chefnogaeth negeseuon drwy uchelseinydd gan Wylwyr y Glannau, yn adrodd bod parciau yn llawer tawelach na’r arfer a bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn y gofynion ymbellhau cymdeithasol.

"Hoffwn ddiolch i'n holl drigolion – y rhai a arhosodd gartref a gwrthsefyll temtasiwn yr heulwen, a'r rhai a wnaeth eu hymarfer corff dyddiol yn ein parciau mewn ffordd gyfrifol.

"Mae gan Gaerdydd barciau a mannau gwyrdd godidog, ac mae’n gaffaeliad mawr i’r bobl niferus hynny sydd heb eu gerddi eu hunain bod y parciau ar gael, am nawr, iddynt fynd allan a mwynhau’r manteision iechyd meddwl a chorfforol a ddaw o ymarfer mewn parciau.

"Rydym am gadw parciau Caerdydd ar agor cyhyd ag y gallwn, ond os ydym yn mynd i wneud hynny, mae gwir angen i bobl barhau i wneud fel y gwnaethon nhw dros y penwythnos hwn – sef eu defnyddio'n gyfrifol, a chadw at y rheolau sy'n ymwneud â phellhau cymdeithasol. Mae'n bwysig nad yw gweithredoedd nifer fach o bobl yn difetha'r peth i bawb."

"Rwy'n gwybod bod tîm y parciau wedi gweithio'n ddiflino drwy'r penwythnos i helpu i atgyfnerthu'r neges honno i'r cyhoedd a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad ar yr adeg anodd hon."